Wcráin 1-0 Cymru

Wcráin v Cymru Image copyright Getty Images
Image caption Dydi Cymru heb fod yn fuddugol mewn gêm gyfeillgar oddi cartre' ers 2008

Er gwaetha' perfformiad calonogol a digon o feddiant, colli oedd hanes Cymru mewn gêm baratoadol cyn Euro 2016 yn Kiev nos Lun.

Dechreuodd yr ymwelwyr yn ddigon addawol ond roedden nhw gôl ar ei hôl hi erbyn hanner amser wedi i Andriy Yarmolenko fanteisio ar amddiffyn gwan i sgorio gydag ymgais gynta' Wcráin.

Er i Gymru gael y mwyafrif o'r bêl yn yr ail hanner, doedd yna fawr ddim i'w gynnig o ran ymosod.

Hwn oedd cyfle olaf y chwaraewyr i greu argraff ar y rheolwr Chris Coleman cyn iddo enwi ei garfan ar gyfer rowndiau terfynol Euro 2016 yn Ffrainc yn yr haf.

Bydd y rhan fwya' o'r 23 o enwau wedi'u dewis yn barod, ac fe wnaeth Emyr Huws argraff dda. Ond mae'n bosib y bydd methiant rhai chwaraewyr fel Tom Lawrence a Simon Church i fanteisio ar gyfleoedd wedi siomi Coleman.

Wedi'r gêm nos Lun, dywedodd rheolwr Cymru: "Doedd o ddim yn ganlyniad ond roedd o'n berfformiad. Mae un neu ddau o chwaraewyr wedi dal y llygad."

Mae Cymru'n paratoi ar gyfer eu prif bencampwriaeth gynta' mewn 58 mlynedd, a byddan nhw'n chwarae yng Ngrŵp B ynghyd â Lloegr, Rwsia a Slofacia.

Straeon perthnasol