Disgyblion yng nghanol digwyddiad arfog Washington

Digwyddiad Washington Image copyright EPA

Fe gafodd disgyblion o Flaenau Gwent eu dal yng nghanol digwyddiad arfog ar drip ysgol i'r Unol Daleithiau ddydd Llun.

Roedd un disgybl o Ysgol Gyfun Tredegar ar y ffôn gyda'i mam pan wnaeth yr heddlu saethu dyn arfog ger adeilad y Capitol yn Washington DC.

Dywedodd Lisa Reardon wrth Radio Wales bod ei merch, Chelsea, wedi dechrau sgrechian a gweiddi "mae ganddo wn".

Ychwanegodd Ms Rearden bod yr athrawon wedi delio â'r sefyllfa yn dda.

'Panig'

"Y peth cynta' aeth trwy fy meddwl oedd beth sy'n mynd ymlaen," meddai.

"Er 'mod i mewn panig, roeddwn yn ceisio tawelu ei meddwl hi hefyd, yn dweud ei bod hi angen gwrando ar yr athro."

Fe wnaeth aelod o'r cyhoedd ddioddef man anafiadau pan wnaeth yr heddlu saethu'r dyn arfog.

"Roedd yr athrawon yn anhygoel yn edrych ar ôl y disgyblion," ychwanegodd Ms Rearden.

"Maen nhw'n parhau gyda'r trip. Dyw hyn ddim am eu stopio nhw."