Dau ddyn yn ddieuog o lofruddio dyn o Gaerdydd

Russell Peachey
Image caption Cafodd Russell Peachey ei ddarganfod yn y stryd

Mae dau ddyn wedi eu cael yn ddieuog o lofruddio dyn o Gaerdydd.

Fe wnaeth y barnwr yn Llys y Goron Caerdydd orchymyn y rheithgor i gael Dean Beasley, 37 oed o'r Barri, a Shaminder Singh, 40 oed o Gaerdydd, yn ddieuog.

Roedd y ddau wedi eu cyhuddo, ynghyd â dau ddyn arall, o lofruddio Russell Peachey, 35 oed, y llynedd.

Mae achos Christopher Smith, 41 oed, a James Williams, 31 oed, yn parhau.

'Ffrae'

Image caption Yr heddlu yn ardal Grangetown yn yr oriau wedi marwolaeth Russell Peachey

Clywodd y llys bod Mr Peachey wedi marw yn dilyn ffrae gyda'i gariad, Tracey Gill, yn ystod noson allan ar 1 Awst 2015.

Dywedodd Vincent Coughlin ar ran yr erlyniad bod y pedwar dyn - oedd yn nhŷ Mr Singh yn Grangetown - wedi sylwi ar y ffrae, ac wedi ymyrryd.

Dywedodd: "Fe ddechreuodd ffrae rhwng Mr Peachey, oedd ar y stryd, a Mr Singh, o ffenestr ei dŷ. Fe aeth pethau'n ddifrifol yn eithaf sydyn."

Clywodd y llys bod Mr Peachey wedi ei ddarganfod yn farw gan gerddwr ar y stryd yn ddiweddarach.

Mae Christopher Smith, o Ben-y-bont, a James Williams, sydd heb gartref parhaol, yn gwadu llofruddio.

Mae'r achos yn parhau.