Gwaith dur Port Talbot: Galw ACau 'nôl i'r Senedd

Port Talbot Image copyright Getty Images

Mae Aelodau'r Cynulliad wedi cael eu galw 'nôl i'r Senedd ar gyfer dydd Llun yn dilyn cadarnhad bod cwmni dur Tata yn ystyried gwerthu'r holl fusnes ym Mhrydain.

Mae'r BBC ar ddeall bod y llywodraeth yn ystyried opsiynau ar gyfer y gwaith dur ym Mhort Talbot, gan gynnwys bod rheolwyr a'r gweithlu yn cael cyfran o'r cwmni.

Yn y cyfamser mae llefarydd ar ran rhif 10 Downing Street wedi cadarnhau na fydd y senedd y San Steffan yn cael ei alw'n ôl er gwaetha' galwad gan Jeremy Corbyn, arweinydd Llafur, i hynny ddigwydd.

Ond nos Fercher fe ddatgelodd prif weinidog Cymru Carwyn Jones ei fod wedi trafod y mater gyda David Cameron a bod yr alwad wedi bod "yn adeiladol".

"Roedd yn gam ymlaen o'r trafodaethau rhwng y ddwy lywodraeth dros y misoedd diwethaf," meddai llefarydd ar ran Mr Jones.

"Pwysleisiwyd pwysigrwydd cydweithio i sicrhau dyfodol cynaliadwy i'r diwydiant dur yng Nghymru mewn cyfnod pryderus i'r gweithlu, eu teuluoedd a'r cymunedau.

"Fe fydd cyfarfod o Dasglu Tata ddydd Llun, ac yfory bydd y prif weinidog yn parhau gyda thrafodaethau gyda Tata Stell a'r undebau."

Achub swyddi?

Mae ffynonellau'n dweud bod yr undebau a phenaethiaid y cwmni wedi meddwl am ffordd i achub swyddi'r gweithlu yn barod.

Dywedodd Tata y byddai'n "ymchwilio i bob opsiwn" am beth i'w wneud nesaf, ond na allan nhw roi ymrwymiad "penagored" i gadw gweithfeydd ar agor.

Cafodd y penderfyniad bod y cwmni'n ystyried gwerthu'r holl fusnes ym Mhrydain ei gyhoeddi wedi i'r cwmni gynnal cyfarfod ym Mumbai, India, ddydd Mawrth.

Mae'r ACau ar hyn o bryd ar wyliau Pasg ond gyda'r ymgyrch etholiadol ar fin cychwyn doedd dim bwriad i'r Senedd gwrdd tan ar ôl y diwrnod pleidleisio.

Fe wnaeth Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones alw'r ACau yn ôl i "ystyried goblygiadau penderfyniad Tata mewn sesiwn lawn", ac fe wnaeth Llywydd y Cynulliad, Y Fonesig Rosemary Butler gadarnhau brynhawn Mercher bod modd galw'r aelodau yn ôl.

"Yn dilyn cais gan y Prif Weinidog, credaf fod sefyllfa bresennol y diwydiant dur yng Nghymru yn fater o bwysigrwydd cyhoeddus y dylid ei drafod ar fyrder," meddai.

Mae'r BBC ar ddeall bod trafodaethau wedi cael eu cynnal rhwng y llywodraeth a gweinidogion, sy'n pryderu y gallai Tata gau'r safle o fewn ychydig wythnosau os nad oes modd dod o hyd i brynwr.

"Rôl y llywodraeth yw camu i'w adwy pan mae dyfodol cwmni hanfodol yn y fantol," meddai ffynhonnell wrth y BBC.

Mae'r BBC hefyd ar ddeall bod y llywodraeth yn ystyried cynnig sicrwydd benthyciadau i brynwyr posib a chyflwyno rheolau llym i sicrhau bod prosiectau Prydeinig yn cael eu gorfodi i brynu dur o'r DU.

'Gweithio'n ddiflino'

Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd Llywodraethau Cymru a'r DU eu bod yn "gweithio'n ddiflino i edrych ar yr holl opsiynau posibl i gadw diwydiant dur Prydeinig cryf wrth galon ein sylfaen gweithgynhyrchu".

Mae'r penderfyniad yn rhoi swyddi miloedd o weithwyr yn y fantol - yn cynnwys y rheiny sy'n gweithio ym Mhort Talbot, Trostre yn Llanelli, Llanwern yng Nghasnewydd a Shotton yn Sir y Fflint.

Daw wedi cyhoeddiad Tata y byddan nhw'n torri 1,000 o swyddi - 750 ym Mhort Talbot - ym mis Ionawr.

Image copyright Getty Images

Mae'r cwmni yn cyflogi tua 5,500 o bobl yng Nghymru ac maen nhw wedi haneru eu gweithlu yn y DU dros y flwyddyn ddiwetha'.

Yr amcangyfrif yw eu bod nhw'n colli £1m y diwrnod ar y safle ym Mhort Talbot yn unig.

'Gweithredu'n gyflym'

Mewn datganiad, dywedodd fwrdd Tata ei fod wedi "nodi bod perfformiad o fewn y DU wedi dirywio dros y 12 mis diwethaf".

Ychwanegodd bod y galw am ddur wedi lleihau, tra bo amgylchiadau masnach yn y DU ac Ewrop wedi "gwaethygu".

Daeth y bwrdd i "gasgliad unfrydol" nad oedd y cynllun gafodd ei gynnig yn fforddiadwy, meddai'r datganiad.

Ond mae'r cwmni wedi dweud na allan nhw roi ymrwymiad "penagored" i gadw gweithfeydd ar agor yn y DU tra eu bod yn ceisio sicrhau prynwr.

Dywedodd y cwmni eu bod eisiau "gweithredu'n gyflym" i sicrhau gwerthu eu safleoedd.

Mae gweinidogion wedi rhybuddio eu bod angen misoedd - ni wythnosau - i chwilio am brynwr.

'Angen cydweithio'

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones y byddai'n gwneud popeth yn ei allu i gefnogi gweithwyr dur Cymru a'u teuluoedd.

Mewn datganiad, dywedodd Mr Jones: "Er ein bod yn anghytuno gyda Llywodraeth y DU ar nifer o faterion ar hyn o bryd, fe fyddwn ni'n gweithio gyda nhw, ac unrhyw un arall, all helpu sicrhau'r diwydiant dur yng Nghymru.

"Mae Cymru wedi wynebu amseroedd anodd o'r blaen, a byddwn ni pob tro yn sefyll yn gadarn gyda'n gweithlu medrus a'n cymunedau."

Image caption Dywedodd Carwyn Jones y bydd Llywodraeth Cymru'n cydweithio â San Steffan

Trafod cenedlaetholi

Dywedodd Weinidog Busnes Llywodraeth y DU, Anna Soubry bod y llywodraeth yn edrych ar yr holl opsiynau i achub y safle ym Mhort Talbot, gan gynnwys cymryd siâr yn y cwmni.

Mae ambell blaid, gan gynnwys Plaid Cymru wedi annog y llywodraeth i wneud hyn, a chenedlaetholi'r busnes.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood: "Os all Llywodraeth Cymru ddod o hyd i £1 biliwn i wario ar ambell filltir newydd o briffordd yn ne-ddwyrain y wlad, yna does bosib y gall sicrhau dyfodol un o ddiwydiannau pwysicaf Cymru am lai o arian."

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi dweud mai buddsoddiad yn y cwmni gan y llywodraeth ddylai fod yr opsiwn olaf, ond y dylai fod yn barod i wneud hynny os nad oes modd darganfod prynwr i'r safle.

Dywedodd arweinydd y blaid yng Nghymru, Kirsty Williams: "Mae diwydiant dur Cymru yn rhywbeth sydd angen cael ei ddiogelu yn y tymor hir, ac rydyn ni angen llywodraeth sy'n ddigon dewr i wneud y penderfyniadau mawr."

'Torcalonnus'

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru, Andrew RT Davies y dylai Llywodraeth San Steffan fod yn barod i fuddsoddi yn y gwaith dur ym Mhort Talbot dros dro.

"Yn ddiweddar rydyn ni wedi cynnig cefnogaeth sylweddol i'r sector fancio am ein bod wedi cydnabod ei bwysigrwydd i'r economi," meddai.

"Nawr mae'n rhaid i ni fod yn barod i gynnig cefnogaeth debyg i sicrhau dyfodol ein diwydiant dur."

Dywedodd arweinydd UKIP yng Nghymru, Nathan Gill bod penderfyniad y cwmni yn un "torcalonnus" i deuluoedd pawb sy'n gysylltiedig â'r gweithle.

"Mae hi'n drychineb nad yw'r rheiny sydd mewn safle i newid polisïau i helpu'r diwydiant yn sylweddoli pwysigrwydd y penderfyniad yma gan y cwmni," meddai.