Sut mae canlyniadau etholiad yn cael eu cyfri a'u hadrodd?

Bydd etholiad 5 Mai 2016 yn dewis 60 aelod i'r Cynulliad Cenedlaethol. Dyma'r hyn sydd angen i chi wybod am sut mae'r etholiad yn gweithio a sut y bydd y BBC yn adrodd ar y canlyniadau.

Sut mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn cael ei ethol?

Mae 60 o seddau yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae gan etholwyr ddwy bleidlais yr un.

Mae'r gyntaf yn cael ei defnyddio i ddewis aelod etholaeth i gynrychioli'r ardal leol. Mae 40 o aelodau etholaeth i gynrychioli'r 40 o etholaethau.

Mae'r ail bleidlais yn cael ei defnyddio i ethol aelodau rhanbarthol, sy'n cynrychioli ardal ehangach sy'n cynnwys yr etholaeth.

Mae 20 o aelodau rhanbarthol ar gyfer y pum rhanbarth yng Nghymru.

Mae aelodau etholaeth yn cael eu hethol gan ddefnyddio'r system draddodiadol lle mae pwy bynnag sy'n derbyn y nifer fwyaf o bleidleisiau yn ennill.

Mae aelodau rhanbarthol yn cael eu hethol gan ddefnyddio ffurf o gynrychiolaeth gyfrannol lle mae seddau'n cael eu dosrannu ar sail cyfran y pleidiau o'r bleidlais.

Mae'r prif bleidiau yn cyflwyno rhestr o ymgeiswyr ar gyfer pob rhanbarth ac maen nhw'n cael eu hethol mewn trefn yn seiliedig ar nifer y pleidleisiau y mae'r blaid yn ei gael.

Mae nifer terfynol y seddau yn cael ei addasu i ystyried nifer y seddau etholaeth y mae bob plaid wedi'u hennill yn y rhanbarth arbennig yna.

Sut mae ennill?

Mae plaid medru ffurfio llywodraeth fwyafrifol - os yw'n ennill mwy o seddau yn y cynulliad na'r holl bleidiau eraill gyda'i gilydd.

Mae cyfanswm o 60 o seddau, felly mae angen ennill 31 i gael mwyafrif.

Os nad yw un blaid yn ennill mwyafrif, gall yr un gyda'r nifer fwyaf o seddau ffurfio clymblaid gydag un neu fwy o'r pleidiau eraill.

Yn ogystal gall y blaid fwyaf ffurfio 'llywodraeth leiafrifol' a dibynnu ar gydsyniad neu gefnogaeth pleidiau eraill i weithredu ei pholisïau.

Beth yw etholaeth?

Er bod etholaethau, sydd hefyd yn cael eu galw'n seddau, yn amrywio o ran maint yn ddaearyddol, y bwriad yw eu bod i gyd yn cynnwys nifer cyfartal o etholwyr (yn fras).

Beth mae'n golygu pan mae plaid yn dal neu yn ennill sedd?

Y peth pwysicaf yw faint o seddau y mae bob plaid yn eu hennill, ac er mwyn i'r drefn newid mae'n rhaid i bleidiau gwleidyddol ennill seddau oddi wrth ei gilydd.

Gan fod ennill seddau fel hyn mor bwysig, mae termau arbennig yn cael eu defnyddio i ddangos hyn. Mae canlyniadau'n gallu bod mewn un o ddau gategori: "ennill" neu "dal".

Dal: Os yw plaid yn ennill sedd a enillodd yn 2011, mae hynny'n cael ei ddisgrifio fel "dal".

Cipio: Os yw plaid yn ennill sedd na enillodd yn yr etholiad diwethaf, mae hynny'n cael ei alw'n "cipio sedd".

Ennill: Lle mae isetholiad wedi cael ei gynnal ers yr etholiad diwethaf, a bod yr isetholiad yna'n arwain at blaid wahanol yn ennill y sedd o gymharu â chanlyniad yr etholiad blaenorol.

Er mwyn i wrthblaid ffurfio llywodraeth newydd, mae angen iddyn nhw "gipio" seddau oddi wrth y llywodraeth bresennol a phleidiau eraill tra'n "dal" eu gafael ar yr holl seddau yr enillon nhw y tro diwethaf.

Bydd angen llywodraeth sydd wedi bod mewn grym yn ceisio amddiffyn neu hyd yn oed ymestyn eu mandad drwy ddal yr holl seddau sydd ganddyn nhw ac ennill rhai newydd oddi wrth bleidiau eraill.

Beth yw isetholiad?

Mae isetholiadau yn etholiadau unigol mewn seddau lle mae'r AC wedi camu o'r neilltu neu wedi marw, er enghraifft.

Mae un isetholiad wedi cael ei gynnal yng Nghymru ers yr etholiad diwethaf pan ymddiswyddodd Ieuan Wyn Jones er mwyn cymryd swydd pennaeth Parc Gwyddoniaeth Menai.

Cafodd y sedd ei chadw gan Blaid Cymru.

Mae'r BBC yn anwybyddu canlyniadau isetholiadau er mwyn llunio cymhariaeth uniongyrchol gyda seddau 2011.

Mae hyn er mwyn cydnabod amgylchiadau penodol iawn sydd yn aml yn ymwneud ag isetholiadau.

Mae cymharu'r newid mewn seddau gydag etholiadau blaenorol y cynulliad yn gynrychiolaeth llawer tecach o sut y mae ewyllys gwleidyddol pleidleiswyr wedi newid.

Beth yw mwyafrif?

Er mwyn cael mwyafrif mae'n rhaid i blaid ennill un sedd yn fwy na'r holl bleidiau eraill gyda'i gilydd.

Mae cael mwyafrif yn golygu y gall llywodraeth weithredu ei pholisïau heb yr angen i greu partneriaeth neu ddibynnu ar gefnogaeth gan bleidiau eraill.

Oherwydd y system gymysg o gynrychiolaeth gyfrannol, mae'n anos ennill mwyafrif yn y Cynulliad Cenedlaethol nag yn San Steffan.

Yn y pedwar etholiad sydd wedi bod ers i'r cynulliad gael ei sefydlu, does yr un blaid wedi ennill mwyafrif clir.

Pa bleidiau sy'n ymddangos yn y crynodeb graffeg ar frig y tudalennau canlyniadau?

Mae'r graffeg canlyniadau bob tro'n dangos y pump neu chwe phlaid uchaf o safbwynt nifer y seddau sydd wedi'u hennill.

Os oes mwy na chwe phlaid yn ennill seddau, bydd y pleidiau gyda'r nifer lleiaf o seddau'n cael eu huno mewn grŵp dan y teitl 'Eraill'.

Os yw'r nifer yn gyfartal - e.e. dwy blaid gyda dwy sedd yr un - y blaid gyda'r nifer fwyaf o seddau etholaethol fydd yn cael ei henwi.

Wedi i'r canlyniadau cyntaf ddod i law, bydd dadansoddwyr y BBC yn gallu darogan faint o seddau y mae'r pleidiau'n debyg o'u hennill ar y cyfan.

Fe fydd hyn yn cael ei ddangos fel bariau llwyd gyda'r teitl "Rhagolwg", ac fe allai hynny newid wrth i fwy o ganlyniadau gael eu cyhoeddi ar noson yr etholiad.

Pa bleidiau sy'n cael eu rhestru yn y tabl canlyniadau?

Er mwyn ymddangos ar sgorfwrdd y seddau etholaethol, mae'n rhaid i blaid gyflawni un o'r meini prawf canlynol:

  • Bod ag ymgeiswyr mewn un o bob chwe etholaeth ar draws Cymru (7)
  • Fod wedi ennill mwy nag 1% o'r bleidlais etholaethol yn etholiad diwetha'r Cynulliad Cenedlaethol
  • Bod ag aelod etholaethol yn y cynulliad diwethaf

Bydd unrhyw blaid sydd ddim yn cwrdd â'r meini prawf yma'n cael eu huno mewn grŵp dan y teitl 'Eraill'.

Er mwyn ymddangos ar sgorfwrdd y seddau rhanbarthol, mae'n rhaid i blaid neu ymgeisydd annibynnol:

  • Fod ag o leiaf pedwar ymgeisydd mewn pedwar o'r pum rhanbarth
  • Fod wedi ennill mwy nag 1% o'r bleidlais ranbarthol yn yr etholiad diwethaf
  • Fod ag aelod rhanbarthol yn y cynulliad diwethaf

Bydd tudalennau pob etholaeth neu ranbarth unigol bob tro yn enwi bob plaid ac ymgeisydd sy'n sefyll yn yr etholaeth neu ranbarth yna.

Pam nad yw'r blwch chwiliocôd post yn rhoi'n canlyniad yr wyf yn ei ddisgwyl?

Mae'r blwch chwilio côd post yn defnyddio'r data diweddaraf gan yr Arolwg Ordnans.

Mae anghysonderau'n gallu digwydd weithiau pan mae chwilio am gôd post yn rhoi etholaeth wahanol i'r un sydd ar gerdyn pleidlais a anfonwyd i gyfeiriad yn yr un côd post.

Fel arfer mae'r etholaethau dan sylw drws nesaf i'w gilydd, ac mae'n ymddangos bod yr anghysonderau'n digwydd pan mae codau post ar y ffin rhwng dwy etholaeth.

Rydym yn cynghori pobl sy'n cael y broblem yma i ddilyn y wybodaeth sydd ar eu cerdyn pleidleisio o safbwynt yr etholaeth y maen nhw'n byw ynddi a'r orsaf bleidleisio fydd yn cael ei defnyddio ar 5 Mai.