Etholiad y Cynulliad: Rhai o'r ffeithiau pwysig

Senedd

Ddydd Mercher yw diwrnod swyddogol cyntaf yr ymgyrchu ar gyfer pumed etholiad y Cynulliad, pan fydd pleidleiswyr yn dewis pwy fydd yn rhan o'r sefydliad ym Mae Caerdydd.

Mae'r Cynulliad yn deddfu mewn meysydd fel iechyd, addysg a llywodraeth leol a'r tymor nesa' bydd ganddyn nhw bwerau trethu am y tro cynta' erioed.

Ond gall yr etholiad fod yn ddryslyd, gyda gwahanol system i ethol ACau o'i gymharu â'r drefn 'cyntaf i'r felin' sy'n cael ei defnyddio yn San Steffan.

Ac fel unrhyw etholiad, mae'n rhaid cofrestru cyn gallu pleidleisio - mae hynny wedi newid hefyd.

Felly beth yw'r dyddiadau pwysig, sut mae pleidleisio a sut mae'r etholiad yn gweithio?

Dyddiadau pwysig

Yn debyg i'r senedd yn San Steffan, mae gwaith swyddogol y Cynulliad yn dod i ben fis cyn yr etholiad.

O 6 Ebrill ymlaen does yna ddim Aelodau Cynulliad, ac mae'r rhai sydd am gael eu hailethol nawr yn ymgeiswyr.

Fe ddaeth gwaith y Cynulliad i ben ar 16 Mawrth, wrth i'r byrllysg seremonïol gael ei dynnu o Siambr y Senedd.

Mae'r cyfnod rhwng diddymu'r Cynulliad a'r etholiad yn cael ei adnabod fel cyfnod 'purdah' neu yn gyfnod cyn etholiadol, gyda'r Prif Weinidog a'i gabinet yn dal mewn swyddi tan i Lywodraeth newydd gael ei ffurfio, wrth i Lywodraeth Cymru barhau i weithredu ar y polisïau sydd eisoes mewn grym.

Erbyn pryd mae'n rhaid cofrestru eich pleidlais ar gyfer etholiad y Cynulliad?

Mae gan bawb tan 18 Ebrill i gofrestru. Does dim rhaid pleidleisio ar ddiwrnod yr etholiad, ond mae yn erbyn y gyfraith i bleidleisio os nad ydych chi wedi cofrestru.

Mae yna gyhoeddusrwydd mawr wedi bod ynglŷn â newid y drefn o gofrestru - mae'n digwydd fesul unigolyn bellach, nid fesul cartref.

Os nad ydych chi wedi cofrestru'n barod gyda'ch cyngor lleol, fe allwch wneud hynny yma yn Gymraeg, neu yn Saesneg. Mae'n bosib y byddwch angen eich rhif yswiriant cenedlaethol.

Mae yna hefyd ffurflenni i gofrestru drwy bleidlais bost.

Beth sydd angen ei wneud i gael pleidlais drwy ddirprwy neu drwy'r post?

Y dyddiad olaf ar gyfer gofyn am bleidlais bost yw 19 Ebrill - ddiwrnod wedi'r dyddiad olaf ar gyfer cofrestru i bleidleisio.

Er mwyn cael defnyddio pleidlais bost mae angen arwyddo ffurflen a'i phostio. Mae gan y Comisiwn Etholiadol - y corff anibynnol sy'n cadw llygad ar etholiadau - ganllaw sy'n cynnwys y ffurflen i'w lawrlwytho.

Mae pleidlais drwy ddirprwy (proxy) yn galluogi rhywun arall i bleidleisio ar eich rhan yn y blwch pleidleisio. Mae angen cael rheswm dilys dros ofyn am bleidlais o'r fath, rhywbeth sydd ddim ei angen gyda phleidlais bost. Gall y rhesymau gynnwys gwyliau, salwch neu anabledd sy'n golygu na fedrwch fynd i orsaf bleidleisio.

Unwaith eto bydd angen llenwi ffurflen a'i phostio yn ol i'r cyngor lleol. Mae modd dod o hyd i ffurflenni yma.

Y dyddiad cau ar gyfer gofyn am bleidlais drwy ddirprwy yw 26 Ebrill.

Pryd mae'r diwrnod pleidleisio? A ble mae fy ngorsaf bleidleisio i?

5 Mai yw'r diwrnod mawr. Bydd gorsafoedd pleidleisio yn agored o 07:00 tan 22:00.

Os ydych chi wedi dewis pleidleisio mewn person, bydd angen i chi fynd i orsaf bleidleisio o fewn yr amseroedd hyn.

Fe fydd yn dweud i ba orsaf sydd angen i chi fynd ar eich cerdyn pleidleisio, fydd yn cael ei anfon i'r cyfeiriad ble'r ydych wedi cofrestru.

Sawl AC sydd 'na?

Mae yna 60 Aelod Cynulliad - 40 wedi eu dewis i gynrychioli etholaethau, ac 20 i gynrychioli rhanbarthau.

Mae Aelodau Cynulliad sy'n cynrychioli etholaeth yn gyfrifol am ardaloedd llai na'r rhai sydd wedi'u hethol i gynrychioli rhanbarthau.

Mae pleidiau yn enwebu rhestr o ymgeiswyr ar gyfer y bleidlais ranbarthol. Bydd pedwar AC yn cael eu dewis ym mhob un o'r pum rhanbarth.

Dyma'r rhanbarthau:

  • Dwyrain De Cymru - yn cynnwys etholaethau Gorllewin Casnewydd, Dwyrain Casnewydd, Blaenau Gwent, Torfaen, Mynwy, Merthyr Tudful a Rhymni, Caerffili ac Islwyn
  • Canol De Cymru - yn cynnwys etholaethau Caerdydd, Bro Morgannwg, Cwm Cynon, Rhondda a Phontypridd
  • Gorllewin De Cymru - yn cynnwys Aberafan, Gŵyr, Castell-nedd, Ogwr, Dwyrain Abertawe a Gorllewin Abertawe
  • Gogledd Cymru - yn cynnwys Aberconwy, Alun a Glannau Dyfrdwy, De Clwyd, Gorllewin Clwyd, Delyn, Dyffryn Clwyd, Wrecsam ac Ynys Môn
  • Gorllewin a Chanolbarth Cymru - yn cynnwys Brycheiniog a Maesyfed, etholaethau Caerfyrddin a Sir Benfro, Ceredigion, Sir Drefaldwyn a Dwyfor Meirionydd.

Sut mae bwrw pleidlais?

Mae etholwyr yn cael dau bapur pleidleisio ar gyfer etholiad y Cynulliad.

Mae un yn caniatáu pleidlais ar gyfer ymgeiswyr yn eich etholaeth leol. Rydych yn pleidleisio dros blaid wleidyddol ar bapur pleidleisio arall.

Fe all y bleidlais ar gyfer plaid wleidyddol fod yr un blaid â'r sawl a gafodd eich pleidlais yn yr etholaeth, neu fe allai fod yn wahanol.

Mae'r bleidlais ar yr ail bapur pleidleisio yn rhan o'r broses o ddewis 20 o aelodau i gynrychioli rhanbarthau.

Sut mae ACau yn cael eu hethol?

Mae'r cyfrif yn digwydd mewn safleoedd ar draws Cymru dros nos, gyda'r canlyniadau ar gael ar wasanaethau'r BBC, ar deledu, radio ac ar-lein yn ystod oriau man bore Gwener.

Yn wahanol i San Steffan, mae etholiad y Cynulliad yn defnyddio system 'Aelod Ychwanegol', a gafodd ei chyflwyno i wneud y Cynulliad yn fwy cyfrannol gan olygu fod y ddau fath gwahanol AC yn cael eu hethol mewn dwy wahannol ffordd.

Y drefn 'cyntaf i'r felin' sy'n cael ei defnyddio i ethol y 40 AC etholaethol - ble mae`r ymgeisydd sydd â'r nifer fwya' o bleidleisiau yn ennill y sedd.

Ar gyfer seddi rhanbarthol mae'r darlun yn fwy cymleth.

Y ffordd symlaf o esbonio hyn yw bod Aelodau Cynulliad rhanbarthol yn ennill seddi ar sail:

  • Cyfran y bleidlais ar y papur pleidleisio sy'n cynnwys pleidiau gwleidyddol;
  • Faint o etholaethau mae ACau sy`n cynrychioli pleidiau gwleidyddol wedi ennill y noson honno.

Felly os yw Llafur yn cael cefnogaeth fawr mewn rhanbarth, ond eisioes wedi ethol nifer o ACau drwy'r system etholaethau, yna dydy o ddim o reidrwydd yn golygu y byddan nhw'n cael sedd ranbarthol ychwanegol.

Mae'r pleidiau yn rhestru ymgeiswyr yn y drefn y byddan nhw'n cael eu hethol, os ydyn nhw'n llwyddiannus.

Er enghraifft, os yw Jo Bloggs yn y safle cyntaf ar gyfer plaid X, a Bob Jones yn yr ail safle, ond bod plaid X ond yn cael un sedd yn y rhanbarth, yna dim ond Jo Bloggs fydd yn cael ei ethol.

Pe bai Plaid X yn cael dwy sedd ranbarthol, yna byddai Bob Jones hefyd yn cael sedd.

Pryd gawn ni wybod pwy fydd y prif weinidog nesaf?

Bydd Llywodraeth Cymru'n cael ei ffurfio o ba bynnag blaid neu grŵp o bleidiau sy'n ennill digon o gefnogaeth yn y Senedd i ethol prif weinidog.

Os bydd mwyafrif clir i un blaid neu'r llall, fe ddaw hynny'n glir ar 6 Mai.

Os na fydd mwyafrif, yna fe allai'r blaid fwya' geisio ffurfio llywodraeth leiafrifol.

Mae hynny'n bosibilrwydd os na fydd y pleidiau eraill yn ceisio atal hynny rhag digwydd, gan ffurfio clymblaid eu hunain.

Fe allai'r pleidiau hefyd geisio trefnu cytundeb i weithio gyda'i gilydd, ond fe allai hynny gymryd peth amser wedi canlyniad yr etholiad.

Image copyright Getty Images

A oes yna etholiad arall yn digwydd yr un pryd?

Oes.

Fe fydd yna bapur pleidleisio arall yn cael ei roi i chi ar gyfer ethol comisiynwyr heddlu a throsedd.

Maen nhw'n gyfrifol am y ffordd mae'r heddlu'n gwario eu cyllid yn y gwahanol ardaloedd, gan bennu faint fydd trethdalwyr yn talu am blismona drwy filiau treth y cyngor. Er nad yw'r comisiynwyr yn penderfynu ar waith yr heddlu o ddydd i ddydd, mae ganddyn nhw'r grym i benodi a diswyddo prif gwnstabliaid.

Mae pob comisiynydd yn gwasanaethu ardal heddlu benodol - felly mae yna gomisiynydd ar gyfer Heddlu'r Gogledd, a Heddlu Dyfed-Powys er enghraifft.

Bydd etholwyr yn cael gwneud dewis cynta' ac ail ddewis ar y papur pleidleisio. Os yw ymgeisydd yn cael dros hanner y pleidleisiau cynta', yna maen nhw'n cael eu hethol ar unwaith.

Os nad yw hynny'n digwydd, mae'r holl ymgeiswyr eraill heblaw am y dewis cynta' a'r ail ddewis yn cael eu dileu.

Bydd ail bleidlais ar gyfer y ddau uchaf o'r rhai sydd wedi'u dileu wedyn yn cael eu hailddosbarthu. Bydd yr ymgeisydd gyda'r nifer ucha' wrth gyfuno'r ddwy bleidlais yn cael eu hethol.