Wyneb Trist y Gwaith

Doedd y ddraig Goch ddim yn symbol gweladwy iawn pan oeddwn i'n grwt. Yn wir prin yr oedd dyn yn ei gweld hi naill fel baner na logo y tu hwnt i Barc yr Arfau a maes yr Eisteddfod. Yn sicr doedd hi ddim yn oll-bresennol fel heddiw.

Ond roedd 'na un ddraig oedd yn amhosib ei hanwybyddu na'i hanghofio sef y ddraig enfawr oedd yn eich croesawi i Bort Talbot - symbol y "Steel Company of Wales" un o'r cwmnïau masnachol mwyaf yn hanes Cymru.

Nid fan hyn yw'r lle i drafod holl hanes gwladoli, preifateiddio, ail-wladoli ac ail-breifateiddio'r diwydiant dur yng Nghymru. Rwy'n codi'r hen ddraig yna er mwyn cyfleu cymaint yr oedd moderniaeth gweithfeydd Margam a Llanwern yn golygu yng Nghymru yng nghanol yr ugeinfed ganrif. Rhywsut roedd y ddraig ar wyneb y gwaith yn arwydd o'n hyder cenedlaethol ni - yn symbol o'r ffordd yr oedd trigolion y Gymru ddiwydianol yn ein gweld ein hun.

Yn yr un modd roedd y 'superpits' gyda'u holwynion cudd, Abernant, Cynheidre, Nantgarw a'r gweddill, yn brawf bod ein diwydinnau trymion traddodiadol yn ffit ac yn abl i ddelio â'r dyfodol.

Rydym yn gwybod erbyn hyn pa mor wag oedd y gobeithion ynghylch y diwydiant glo. Nawr mae'n ymddangos bod ein diwydianau metal yn wynebu ffawd debyg.

Oes modd i'n gwleidyddion achub y sefyllfa? Wel fe fyddai'n gywilyddus pe na baent yn ceisio gwneud hynny ond dyw'r gwyntoedd ddim o'u plaid. Mae gen i ddau gwestiwn i ofyn.

Yn gyntaf, os na fedr cwmni cefnog profiadol fel Tata gadw'r gweithfeydd i fynd pwy arall sy'n debyg o allu gwneud hynny?

Yn ail, ydy Tata mewn gwirionedd yn dymuno gweld y gweithfeydd y mae'r cwmni wedi buddsoddi'n helaeth ynddynt yn nwylo cystadleuydd?

Fe gawn wybod yr atebion yn weddol o fuan, dybiwn i.