Cyhoeddi Alan Jones fel llywydd newydd Morgannwg

Alan Jones Image copyright Getty Images

Cyn-gapten a hyfforddwr Morgannwg, Alan Jones yw llywydd newydd y sir.

Fe wnaeth Jones, 77, gynrychioli'r rhanbarth rhwng 1957 ac 1983, gan sgorio dros 1,000 o rediadau mewn 23 tymor yn olynol.

Roedd yn rhan o'r garfan wnaeth ennill y Bencampwriaeth yn 1969.

Mae'n olynu cyn-lywydd y Cyngor Criced Rhyngwladol a Bwrdd Criced Cymru a Lloegr, David Morgan, oedd yn llywydd ers 2012.

Jones sy'n dal y record am wneud y nifer mwyaf o rediadau yn y Bencampwriaeth - 36,049 - heb wneud ymddangosiad rhyngwladol swyddogol.

Ar ôl ymddeol fel chwaraewr, bu'n rhan o staff hyfforddi Morgannwg a bu hefyd yn gweithio fel sylwebydd gyda S4C.