Taro a ffoi: Arestio dyn 70 oed

Gwesty Ifor Hael Image copyright Google

Mae dyn 70 oed wedi cael ei arestio yn dilyn marwolaeth dyn yn Llwynypia, Rhondda, nos Iau 31 Mawrth.

Cafodd y dyn o Porth ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n ddiofal neu yn anystyriol.

Bu farw dyn 49 oed ar ôl cael ei daro gan gar wnaeth ddim stopio yn dilyn y gwrthdrawiad.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad y tu allan i Westy Ifor Hael yn Llwynypia, Tonypandy, am 23:15 nos Iau.

Bu'r ffordd ar gau dros nos am bum awr wrth i'r ymchwiliad gael ei gynnal.