Aha Zaha

Mae marwolaeth ddisymwth y pensaer Zaha Hadid wedi esgor ar lwyth o deyrngedau a chofiannau a phob un ohonynt bron yn crybwyll ei champwaith coll - Tŷ Opera Bae Caerdydd. Mae hanes y cynllun hwnnw yn un rhyfedd ac yn un sy'n adrodd cyfrolau am y ffordd yr oedd grym yn gweithio yng Nghymru yn y dyddiau cyn datganoli.

Virginia Bottomley, yr ysgrifennydd treftadaeth, wnaeth roi'r gyllell i mewn yn y diwedd ond yn ei lyfr 'Opera House Lottery' mae cadeirydd ymddiriedolaeth y Tŷ Opera hefyd yn rhoi'r peth o'r bai ar ysgwyddau eraill hefyd. Cyn Ysgrifennydd Cymru Nicholas Edwards oedd y cadeirydd a'r awdur hwnnw ac fe ddylai wybod wrth feirniadu diffyg uchelgais Michael Heseltine a William Hague ymhlith eraill am y methiant.

Mae'r gwir ychydig bach yn fwy cymhleth, rwy'n meddwl. Yn nyddiau Nick yn y Swyddfa Gymreig roedd Ysgrifenyddion Cymru wedi arfer a chael eu ffordd. Pe bai'r ysgrifennydd yn dymuno gweld rhywbeth yn digwydd, fe fyddai'r rhywbeth yna yn digwydd - beth bynnag bo'r gost neu'r farn gyhoeddus.

Cymerwch brif orchest Nicholas Edwards ei hun, Barad Bae Caerdydd, fel enghraifft. Fe gostiodd hwnnw dau gan miliwn o bunnau i'w adeiladu a gwarir ugain miliwn o bunnau'r flwyddyn i gynnal y barad ei hun a'r llyn a grëwyd ganddo.

Fe fyddai nifer yn dadlau bod y buddsoddiad hwnnw yn un sydd wedi talu ar ei ganfed - ond nid dyna'r pwynt. Y peth yw hyn, mae'n amhosib dychmygu llywodraeth oedd yn atebol i bobol Cymru yn beiddio gwario cymaint o arian ar brosiect o'r fath - yn enwedig un yn y brifddinas. Fe fyddai'r peth yn wenwyn etholiadol y tu fas ac, o bosib, y tu fewn i Gaerdydd.

Ond erbyn 1995, pan wrthodwyd cynlluniau'r ymddiriedolaeth roedd pethau wedi dechrau newid. Roedd hi'n weddol amlwg bod newid llywodraeth a Chynulliad ar y ffordd ac roedd y dyddiau lle'r oedd ysgrifennydd gwladol yn gallu ymddwyn fel rhyw fath o Arglwydd Raglaw yn tynnu at derfyn.

Gyda'r cyhoedd yn crafu eu pennau ynghylch cynlluniau annelwig Hadid ac wedi eu camarwain i gredu y byddai llwyddiant i'r Tŷ Opera yn golygu diwedd ar y cynlluniau ar gyfer Stadiwm y Mileniwm does dim rhyfedd bod byd y bêl wedi trechu byd y baswyr.

Wrth gwrs, yn y diwedd fe gafodd Caerdydd y stadiwm ac, o dan enw arall, y tŷ opera - yr unig ddinas tu fas i Lundain i sicrhau dau o brif brosiectau Comisiwn y Mileniwm. Yn y broses aberthwyd cynllun Hadid.

Mae'n amhosib gwybod a fyddai mwclis crisial Zaha wedi ennill calonnau pobol yn yr un modd â thomen llechi Jonathan Adams. Un peth sy'n sicr, fe fyddai wedi bod yn gofeb addas i'r hen ffordd o wneud pethau - rhyw fath o fersiwn Gymreig o'r 'Gateway of India' ar lannau llyn Nick Edwards.