Yeovil 1-0 Casnewydd

Mark Byrne Image copyright Huw Evans picture agency

Roedd cic o'r smotyn gan Jack Compton yn yr hanner cyntaf yn ddigon i Yeovil guro Casnewydd a symud uwchben y tîm o dde Cymru yn yr Ail Adran.

Rhwydodd Compton ar ôl i Tavhon Campbell gael ei daclo'n annheg gan Danny Holmes.

Doedd Casnewydd ddim yn edrych fel sgorio, ac maen nhw nawr wedi colli pedwar gem yn olynol.

Mae Casnewydd bellach yn yr 21ain safle yn y tabl, 12 pwynt uwchben y tri isaf.