Forest Green Rovers 0-0 Wrecsam

Blaine Hudson Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Cafodd Blaine Hudson ei yrru o'r cae am drosedd ar Kurtis Guthrie

Di-sgôr oedd hi rhwng Wrecsam a Forest Green Rovers er i'r ymwelwyr orffen y gêm gyda naw chwaraewr ar y cae.

Forest Green oedd gryfaf drwy'r rhan fwyaf o'r gêm, ac roedd rhaid i Robbie Evans glirio peniad James Jennings oddi ar y llinell gôl.

Aeth Wrecsam i lawr i 10 dyn pan gafodd Blaine Hudson gerdyn coch am drosedd ar Kurtis Guthrie.

Cafodd y capten, Connor Jennings ei yrru o'r cae dri munud yn ddiweddarach ar ôl cael ail gerdyn melyn.

Ond doedd Forest Green methu manteisio, ac mae tîm Gary Mills yn parhau tri phwynt y tu ôl safleoedd gemau'r ail gyfle.