Amgueddfeydd: Mwy o streiciau dros dâl ar benwythnosau

Protest

Bydd mwy o streiciau yn amgueddfeydd Cymru wrth i anghydfod am weithio ar benwythnosau barhau.

Dywedodd undeb PCS y byddai'r streiciau yn digwydd ar bob penwythnos rhwng 9 Ebrill a 1 Mai.

Daw'r cyhoeddiad yn dilyn streic dros y Pasg.

Mae Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn dweud eu bod wedi cael toriad o 4.7% yn yr arian sy'n dod gan Lywodraeth Cymru, a bod taliadau ychwanegol am waith ar benwythnosau yn costio £750,000 y flwyddyn.

Mae aelodau'r PCS wedi bod yn protestio yn erbyn cynllun i atal taliadau ychwanegol am waith ar benwythnosau ac ar wyliau banc.

Bydd y streiciau yn effeithio Amgueddfa Big Pit ym Mlaenafon, Sain Ffagan a'r Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd, yr Amgueddfa Wlân yn Llandysul, yr Amgueddfa Lechi yn Llanberis ac Amgueddfa Abertawe.