Yr ifanc a ŵyr? Prifeirdd

John Gwilym a Tudur Dylan Jones

Dau brifardd sydd yn trafod eu perthynas yn y diweddaraf yn ein cyfres Yr Ifanc a Ŵyr. Enillodd y Parch John Gwilym Jones y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Cyffiniau yn 1981 a bu'n Archdderwydd rhwng 1993 a 1996.

Cafodd y fraint unigryw yn Eisteddfod Genedlaethol Bae Colwyn 1995 o gadeirio ei fab, Tudur Dylan yn ogystâl â choroni ei frawd, Aled Gwyn. Enillodd Dylan y Gadair eto yn Eisteddfod Eryri a'r Cyffiniau yn 2005 a chipiodd y Goron yn Eisteddfod Sir y Fflint 2007.


"Teyrngarwch i'r Mother's Union" - John Gwilym Jones am ei fab

Buom yn eithriadol ffodus mewn tri phlentyn, a Dylan yw'r un canol. O'i fabandod bu'n or-deimladwy. Pan ddechreuodd yngan ambell air dysgodd ei fam ei bader iddo, a byddai yntau'n ymylu ar ddagrau wrth adrodd y llinell, "Os byddaf farw cyn y bore", cyn gwybod ystyr marw.

Un o'i wendidau mawr yw ei deyrngarwch unllygeidiog i Fanceinion Unedig, a hynny o'i blentyndod. Un tro aethom â'r tri, a Dylan tua'r pump oed, i weld mannau hanesyddol Môn. O fewn i eglwys Penmynydd, yn pwyso ar wal ger yr allor, yr oedd baner ac arni'r llythrennau MU yn fawr. Ni ddeallodd Dylan mai baner y Mother's Union oedd hon. Dim ond un MU oedd ar ei feddwl, a mynegodd ei lawenydd ar unwaith fod saint Penmynydd yn gefnogwyr Man U.

Enghraifft arall o'i ymlyniad at y bêl gron oedd yn ystod Cwpan y Byd tua'r un cyfnod. Mae'n rhaid ei fod wedi fy nghlywed yn dweud wrth y wraig fod yna hen frawd ym Mangor wedi marw. Daeth Dylan i mewn i'r sgwrs a gofyn pryd yn union fu farw. Wedi derbyn yr ateb, mynegodd Dylan siom drosto ei fod wedi methu holl gemau Cwpan y Byd felly.

Image caption Y Prifardd Tudur Dylan

Hwyliai yn ddidrafferth drwy ysgol a choleg, a bu'n ymrysonwr yn ifanc iawn. Rwy'n cofio'r tro cynta' iddo gystadlu mewn ymryson yn y Genedlaethol ym 1983, ac yntau yn fachgen ysgol yn yr un tîm â fi, ei fam yn fy siarso y tu fas i'r Babell Lên: "Gofala wedi ichi gael eich tasgau dy fod ti'n ei helpu fo!" Mi allwn fod wedi dweud wrthi'r pryd hwnnw mai fe ddylai fy helpu i.

Mae gan Enid ac yntau aelwyd ddedwydd, lle na allai'r creadur mwyaf di-serch deimlo'n anghyfforddus. Ond un o'u beiau amlycaf yw'r galwadau ffôn yn gyson gaf gyda'r nos yn dweud fod yna swper ar y ffordd i fyny i Beniel, a hwnnw'n diferu o golesterol. Y felltith yw ei fod bob tro yn anfaddeuol o flasus.

Un arall o feiau Dylan yw fod ganddo lawer gormod o heyrn yn tân. Etifeddodd y gwendid hwnnw tra'n lletya, ar ddechrau ei yrfa fel athro, gyda'i Datcu yng Nghastellnewydd Emlyn. Cyn iddo gael ei wynt ato, wrth ddod mewn drwy'r drws gyda'r hwyr, byddai Dat â phentwr o raglenni eisteddfodau ar y ford yn barod ar eu gyfer nhw'u dau. Ac wedyn ffarwél i farcio!

Mae'n rhy hwyr i'w newid bellach.


"Cariad at eiriau" - Dylan am ei dad

'Sut deimlad ydy bod yn fab i weinidog?' oedd y cwestiwn dwi'n cofio'i gael ym aml yn blentyn, a wastad meddwl ei fod yn gwestiwn hurt. Roedd o'r peth mwya' naturiol dan haul i Eilir, Nest a fi. Dim ond un anfantais oedd, sef ein bod ni'n mynd i'r capel deirgwaith y Sul, fore, pnawn a nos!

Yn fwy na bod yn Weinidog, dau beth oedd yn gosod fy nhad yn wahanol i holl dadau fy ffrindiau oedd ei enw. 'Dad' oedd pawb arall yn galw eu tadau, ond 'Dat' oedd 'Dad' i ni. Yr ail beth yw ei fod yn gwisgo tei bron i bobman. Mae gen i lun ohono'n gwisgo tei i dorri'r gwair, a hyd yn oed lun ohono'n ei dei wedi cerdded yr holl ffordd i ben yr Wyddfa!

Pan fyddem yn mynd ar deithiau hir yn y car, draw i Blas yn Rhos i weld Taid a Nain, neu i Gastellnewydd Emlyn i weld Datcu a Mamgu, yr hyn oedd yn byrhau'r daith i dri phlentyn ifanc oedd straeon Dat. Roedden nhw'n llawn dychymyg, ac yn para digon i'n cadw'n llawn cyffro o Gaernarfon i Synod Inn neu o Fethesda i Gorwen.

Image caption Y Prifardd John Gwilym

Mae'n siŵr fod cariad at eiriau wedi dechrau datblygu yn ystod y teithiau hynny, achos un dacteg arall oedd ganddo oedd gemau odli yn cynnwys enwau pentrefi. Byddai'n dweud cwpled ond yn gadael enw'r pentref nesaf allan, a disgwyl i ni ei gwblhau. Yr un dwi'n ei gofio hyd heddiw ydy:

'Roedd 'na fochyn bach yn sâl

draw ym mhentref... Penrhiw Pâl'!

A phan fyddai un ohonon ni'n cael yr ateb yn gywir, nid 'da iawn' fyddai'n dod o'r sedd flaen, ond chwerthiniad iach.

Byddai ymweliadau i'r traeth bob haf hefyd yn gyfrwng difyrrwch. Tra byddai teuluoedd eraill a bwced a rhaw fach blastig, er mwyn ein cadw'n ddiddig, byddai Dat wedi cofio rhoi rhaw o'r ardd yng nghefn y car. Byddai hon yn ei alluogi i adeiladu pob math o ryfeddodau, gan gynnwys cwch fyddai'n ddigon o faint i bob un allu ffitio mewn a hwylio i bedwar ban byd.

Image caption "Byddai ymweliadau i'r traeth bob haf hefyd yn gyfrwng difyrrwch"

Dwn i ddim pryd oedd y tro cyntaf i fi ofyn cwestiwn iddo, neu holi am gyngor, ond mi alla i ddweud nad ydy'r cwestiynau hynny erioed wedi peidio. Mae ei farn a'i gyngor a'i gymorth yn golygu mwy i fi heddiw nag erioed.

Pan fydda i wedi llunio rhyw gywydd neu englyn, ac eisiau ail farn, dyma alwad ffôn i Beniel. Os oes yna ymateb yn dod, 'Dwed hwnna 'to,' bydda i'n gwybod yn syth fod angen i fi ailedrych ar y gerdd.

Ond bydda i'n gwybod hefyd ei fod wedi ei blesio os mai'r hyn a glywaf yr ochr arall i'r ffôn ydy chwerthiniad iach.

Straeon perthnasol