Y dwsin disglair // Wales' boxing world champions

welsh - driscoll

Ar 9 Ebrill llwyddodd Lee Selby i gadw gafael ar Bencampwriaeth Pwysau Plu IBF y Byd wedi iddo guro Eric Hunter yn Llundain. Mae Selby ymhlith dwsin o focswyr Cymreig gafodd eu coroni yn bencampwyr byd:

On 9 April, Lee Selby from Barry retained his IBF World Featherweight title by beating Eric Hunter in London. Selby is among 12 Welsh boxers to be crowned world champions:


Percy Jones

Daeth Percy Jones yn Bencampwr Byd yn 1914 ond fe roddodd y gorau i focsio yn 23 oed gan fynd i ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Enillodd 50 o'i 56 gornest broffesiynol. Collodd ei goes yn y rhyfel a bu farw o'i anafiadau yn 1922 yn 29 oed.

Jones became Wales' first world champion in 1914and had an impressive record of 50 wins, three losses and three draws. He retired from boxing at 23 to fight in World War One, where he lost a leg. He died due to complications from his injuries in 1922 aged 29.


Freddie Welsh

Daeth Freddie Welsh o Bontypridd yn Bencampwr Pwysau Ysgafn y Byd yn 1915. Treuliodd y rhan fwyaf o'i yrfa yn America ac roedd yn arloeswr fel hyfforddwr ac yn credu mewn diet arbennig i athletwyr. Bu farw yn Efrog Newydd yn 1927 yn 41 oed, ond erbyn hynny roedd wedi colli ei gyfoeth.

Freddie Welsh from Pontypridd became world lightweight champion in 1915. He spent most of his career in the USA and became a pioneer in sports science and nutrition. He died in New York in 1927 aged 41, having lost his fortune.


Jimmy Wilde

Roedd Jimmy Wilde o Bendyrus, Y Rhondda, yn focsiwr hynod o fedrus gan golli ond tair gornest allan o 141. Cafodd y llysenw "The Mighty Atom". Enillodd Bencampwriaeth Pwysau Pry y Byd yn 1916, ac mae nifer yn credu hyd heddiw mai Wilde yw un o'r bocsiwr pwysau pry gorau erioed.

Jimmy Wilde from the Rhondda was supremely talented and lost only three times in 141 bouts. He became world champion in 1916 and is recognised as one of the best flyweights ever.


Howard Winstone

Cafodd Howard Winstone o Ferthyr Tudful y fedal aur yng Ngemau Gymanwlad Caerdydd, 1958. Enillodd 61 o'i 67 gornest gyda thair o'i chwe cholled yn dod yn erbyn Vicente Saldivar o Fecsico. Ond enillodd ei ornest yn erbyn Mitsunori Seki yn 1968 i ddod yn bencampwr y byd. Rhoddodd y gorau i focsio yn 29 gan fyw ym Merthyr nes ei farwolaeth yn 2000. Mae cerflun efydd ohono yn ei dref enedigol.

Winstone won gold at the Cardiff Empire Games in 1958. He won 61 of his 67 fights, with three of the losses coming against Vincente Saldivar of Mexico. He beat Mitsunori Seki in 1968 to become world champion. He retired aged 29 and died in his beloved Merthyr, where there is a statue in his honour.


Steve Robinson

Roedd Steve Robinson yn gweithio yn siop Debenhams yng Nghaerdydd cyn iddo ennill Pencampwriaeth Pwysau Plu WBO y byd yn 1993. Collodd ei deitl yn hwyrach yn erbyn Naseem Hamed yng Nghaerdydd ym mis Medi 1995.

Robinson worked as a security guard at Debenhams in Cardiff when he got a shot at the WBO featherweight title at two days' notice in 1993. He later lost his title against Prince Naseem Hamed in September 1995.


Robbie Regan

Roedd Regan, o Gaerffili, yn Bencampwr WBO Pwysau Bantam yn 1996. Ond er iddo ennill y belt, mae teimlad y gallai fod wedi mynd ymhellach. Gorfod iddo ymddeol yn 1998 yn dilyn anaf i'w ymennydd, ac wedi hyn dechreuodd ei fywyd fynd ar chwal ac fe gafodd ei garcharu am 18 mis yn 2004.

Robbie Regan from Caerphilly became world champion in 1996, though many feel he did not reach his full potential. He retired in 1998 due to a brain injury. He was jailed for 18 months for assault in 2004.


Joe Calzaghe

Enillodd Joe Calzaghe, o Drecelyn, Bencampwriaeth Uwch Ganol y Byd yn erbyn Chris Eubank yn 1997. Ymhlith ei wrthwynebwyr mwyaf adnabyddus roedd Jeff Lacy, Mikkel Kessler, Bernard Hopkins a Roy Jones Jnr. Erbyn iddo ymddeol roedd wedi ennill pob un o'i 46 gornest broffesiynol. Mae'n cael ei gydnabod gan lawer fel un o focswyr gorau Prydain erioed.

Joe Calzaghe won a super middleweight world championship title by beating Chris Eubank in 1997. His most notable fights were against Jeff Lacy, Mikkel Kessler, Bernard Hopkins and Roy Jones Jnr. He retired undefeated after 46 fights and is considered one of Britain's best ever boxers.


Barry Jones

Cipiodd Barry Jones bencampwriaeth Uwch Bwysau Plu y Byd yn erbyn Wilson Palacio o Golombia yn 1997. Cafodd 20 o ornestau proffesiynol gan golli dim ond un ohonyn nhw. Mae bellach yn gweithio fel sylwebydd bocsio.

Barry Jones won the super featherweight world title against Wilson Palacio of Colombia in 1997. He had a total of 20 fights, with 18 wins, one loss and one draw. He now works as a boxing commentator.


Enzo Maccarinelli

Enillodd Enzo Maccarinelli, o Abertawe, Bencampwriaeth Go-drwm y Byd yn 2003. Collodd i David Haye yn 2008. Yn Rhagfyr 2015 enillodd yn erbyn un o'r bocswyr mwyaf medrus erioed, Roy Jones Jnr.

Enzo Maccarinelli from Swansea won the WBU cruiserweight title in 2003. He lost to David Haye in 2008 and in recent years he has fought at light heavyweight. In December 2015, he beat the great Roy Jones Jnr.


Gavin Rees

Roedd Gavin Rees o Drecelyn yn cael ei hyfforddi gan Enzo Calzaghe, tad Joe, ar un adeg. Enillodd Bencampwriaeth Pwysau Uwch Ysgafn y Byd drwy guro'r Ffrancwr Souleymane M'baye. Collodd dair o'i bedair gornest olaf a rhoddodd y gorau i focsio yn 2014.

Newbridge's Gavin Rees won his super lightweight title against Frenchman Souleymane M'baye. He lost three of his last four fights before retiring in 2014.


Nathan Cleverly

Mae gan Nathan Cleverly o Gefn Fforest radd Mathemateg o Brifysgol Caerdydd. Enillodd Bencampwriaeth Is-Drwm y Byd yn erbyn y Ffrancwr Nadjib Mohammedi yn 2010. Ond yn 2013 collodd yn erbyn Sergey Kovalev mewn gornest yng Nghaerdydd ac yn erbyn Tony Bellew yn Lerpwl yn 2014. Mae'n gobeithio adennill Pencampwriaeth y Byd yn 2016.

Nathan Cleverly from Cefn Fforest won his world championship belt against Frenchman Nadjib Mohammedi in 2010. He lost against hard hitting Russian Sergey Kovalev in Cardiff in 2013 and against Liverpudlian Tony Bellew a year later. He hopes to regain a world title in 2016.


Lee Selby

Lee Selby o'r Barri yw Pencampwr Byd diweddara' Cymru. Cipiodd goron Pwysau Plu IBF y Byd yn erbyn Evgeny Gradovich o Rwsia yn 2015. Dim ond unwaith mae wedi colli mewn 23 gornest ac mae'n wynebu yr Americanwr Eric Hunter yn Llundain ar 9 Ebrill.

Lee Selby from Barry is Wales' most recent world champion. He won the IBF world featherweight belt against the Russian Evgeny Gardovich in 2015. He has only lost once in 23 fights and faces American Eric Hunter in London on 9 April.


Straeon perthnasol

Hefyd ar y BBC