Cytundeb newydd i Alex Cuthbert gyda'r Gleision

Alex Cuthbert Image copyright Getty Images

Mae asgellwr Cymru, Alex Cuthbert wedi arwyddo cytundeb newydd gyda Gleision Caerdydd.

Mae'r chwaraewr 26 oed wedi sgorio 15 o geisiau mewn 42 gêm ryngwladol, ac roedd adroddiadau yn y wasg ei fod am symud i unai Caerwrangon neu Leinster.

Mae Cuthbert wedi'i anafu ar hyn o bryd, a bydd yn methu taith Cymru i Seland Newydd yn yr haf.

Gyda'r Gleision yn unig mae'r cytundeb, wedi i hyfforddwr Cymru, Warren Gatland ddatgelu ym mis Ionawr bod y chwaraewr wedi gwrthod cytundeb deuol gyda Undeb Rygbi Cymru.

Dywedodd hyfforddwr y Gleision, Danny Wilson: "Mae Alex wedi chwarae'n arbennig i'r Gleision ers dod 'nôl o Gwpan Rygbi'r Byd a ry'n ni'n falch iawn ei fod nawr wedi dewis mai gyda ni y mae ei ddyfodol."

Ychwanegodd Cuthbert: "Rwy'n falch iawn i arwyddo cytundeb newydd yng Nghaerdydd ac rwy'n edrych ymlaen at fod yn ôl yn iach a chael dechrau'r tymor nesaf."