Heddwas wedi ei anafu ar ôl cael ei daro gan gar

digwyddiad

Mae Heddlu Dyfed Powys yn ymchwilio, wedi i heddwas gael ei anafu ar ôl cael ei daro gan gar tra ar ddyletswydd yn Sir Benfro.

Bu'r swyddog mewn gwrthdrawiad â char Ford Mondeo arian wrth iddo gerdded allan o ffordd gefn yn Hwlffordd nos Fawrth.

Mae'r swyddog yn cael ei drin yn Ysbyty Llwynhelyg yn y dref ar hyn o bryd, ac fe gredir nad yw ei anafiadau yn peryglu ei fywyd.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar Stryd y Bont am 18:35.