Caerloyw 21-23 Dreigiau

dorian
Image caption Fe sgoriodd Dorian Jones bump cic gosb i'r ymwelwyr

Mae'r Dreigiau wedi cipio buddugoliaeth yn erbyn Caerloyw i gyrraedd y rownd gyn derfynol o Gwpan Her Ewrop.

Y mewnwr Charlie Davies gafodd y cais allweddol gyda phedwar munud yn weddill i roi'r ymwelwyr ar y blaen.

Fe giciodd y maswr Dorian Jones pum cic gosib gyda Carl Meyer yn cael y llall mewn gêm glos.

Ben Morgan a Steve McColl sgoriodd geisiau'r tîm cartref ac fe giciodd Greig Laidlaw 11 pwynt.

Bydd y Dreigiau yn chwarae Montpellier yn y rownd nesa'.