Wrecsam 0-1 Dover Athletic

wrecsam Image copyright Getty Images

Mae Wrecsam chwe phwynt o'r pump uchaf ar ôl colli gartref i Dover Athletic.

Ricky Modester sgoriodd unig gôl y gêm yn yr ail hanner i'r ymwelwyr mewn gornest dynn, ond heb llawer o gyfleoedd.

Daeth James Gray yn agos i Wrecsam ar ôl taro'r traws yn ogystal â Simon Helsop.

Mae'r canlyniad yn gadael Dover yn y 3ydd safle.