Y Seintiau Newydd yn bencampwyr am y pumed tro yn olynol

seintiau

Mae'r Seintiau Newydd wedi eu coroni yn bencampwyr Uwch Gynghrair Cymru ar ôl iddyn nhw guro'r Bala o 2-0.

Dyma'r pumed gwaith yn olynol i'r clwb gipio'r gynghrair, diolch i goliau gan Ryan Brobbel ac Aeron Edwards yn yr ail hanner.

Bydd Y Seintiau Newydd yn gobeithio efelychu llwyddiant llynedd drwy gipio'r trebl unwaith eto eleni.

Maen nhw eisoes wedi ennill Cwpan y Gynghrair a bydden nhw'n wynebu Airbus yn ffeinal Cwpan Cymru ar 2 Mai.