Llofruddio gyda morthwyl: Carchar am oes

Williams

Mae dyn o Gaerdydd wedi cael ei ddedfrydu i oes - gyda lleiafswm o 20 mlynedd - o garchar am lofruddio dyn gyda morthwyl.

Roedd James Williams, 31 oed, wedi'i gael yn euog o lofruddio dyn arall ar ôl ei weld yn cael ffrae gyda'i gariad yng Nghaerdydd.

Roedd Williams gyda thri o ffrindiau pan redodd ar ôl Russell Peachey, 35 oed, i lawr y stryd cyn ymosod arno gyda morthwyl ym mis Awst y llynedd.

Clywodd y llys bod Mr Peachey a'i gariad, Tracey Gill wedi bod yn cael ffrae ar noson allan yn ardal Grangetown cyn i Williams ymyrryd.

Cafodd y tri dyn arall oedd gyda Williams eu cael yn ddieuog o lofruddiaeth yn Llys y Goron Caerdydd.

Fe gafwyd ei gyd-ddiffynnydd Christopher Smith, 35 oed o Gwrt Caerau, yn ddieuog ddydd Mawrth tra bo Dean Beasley, 37 oed o'r Barri, a Shaminder Singh, 40 oed o Grangetown, yn ddieuog fis diwethaf.

Image caption Bu farw Russell Peachey ym mis Awst y llynedd

Wrth ddedfrydu Williams dywedodd y barnwr Keith Thomas: "Does dim modd adfer bywyd dyn.. does dim cosb all wneud yn iawn i deulu am eu colled.

"Roedd yr ymosodiad yma yn giaidd a pharhaus."