Ffrae dros ddefnydd 'Cader' neu 'Gadair' Idris

Cader Idris Image copyright Gareth Thompson

Achosodd enw un o fynyddoedd enwocaf Cymru gryn ddadlau yng nghyfarfod cynllunio Parc Cenedlaethol Eryri ddydd Mercher.

Roedd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyflwyno cais am arwyddion i'w gosod ger maes parcio Dol Idris ym Minffordd, Talyllyn.

Roedd un o'r arwyddion yn dangos y ffordd i fynydd 'Cadair Idris', sydd ddim wrth fodd pawb yn lleol.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru: "Er bod y ffurf 'Cader' yn adlewyrchu'r ynganiad lleol ac mae'n bwysig ystyried arferiad lleol, mae'r mynydd yn ddigon adnabyddus i Gymru gyfan, sef sail ein penderfyniad i ddefnyddio sillafiad safonol."

'Cader' neu 'Cadair'?

Yn ystod y cyfarfod, gofynnodd y cynghorydd Dyfrig Siencyn o Ddolgellau: "Pwy newidiodd yr enw o 'Gader Idris' i 'Gadair Idris'?

"Mae'n siŵr mai rhyw academydd yn rhywle, heb unrhyw wybodaeth o hanes yr enw. Cader Idris fuodd o i mi erioed."

Cafodd ei gefnogi gan gadeirydd y pwyllgor cynllunio, y cynghorydd Elwyn Edwards o'r Bala, a'r cynghorydd John Pugh Roberts o Ddinas Mawddwy.

Mae'r Cynghorydd Edwards yn ymgyrchydd dros warchod enwau gwreiddiol Cymraeg a dywedodd fod dogfennau hanesyddol yn dangos mai 'Cader Idris' oedd yr enw.

Clywodd y pwyllgor bod yr hen Gomisiwn Cefn Gwlad wedi newid yr enw i 'Cadair Idris' ar ôl ymgynghori gyda Chomisiynydd y Gymraeg.

Golyga hyn mai 'Cadair Idris' sydd nawr yn cael ei ddefnyddio ar ddogfennau swyddogol.

Newid yr enw yn ôl?

Cytunodd y pwyllgor i gymeradwyo'r arwyddion, ond i swyddogion gynnal trafodaethau pellach gyda'r ymgeiswyr ynglŷn â defnyddio 'Cader' neu 'Cadair Idris'.

Cafodd naw arwydd eu cymeradwyo i gyd ar gyfer ardal maes parcio Dol Idris. Y sillafiad 'Cader Idris' oedd ar rai o'r arwyddion llai i gyfeirio cerddwyr at lwybrau'r mynydd.

Dywedodd Uwch Reolwr Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cadair Idris i Gyfoeth Naturiol Cymru, Paul Williams, bod yr awdurdod "wedi derbyn cyngor gan swyddfa Comisiynydd y Gymraeg a Chanolfan Bedwyr Prifysgol Bangor am yr enw cywir i'w ddefnyddio".

Ychwanegodd: "Er bod y ffurf 'Cader' yn adlewyrchu'r ynganiad lleol ac mae'n bwysig ystyried arferiad lleol, mae'r mynydd yn ddigon adnabyddus i Gymru gyfan, sef sail ein penderfyniad i ddefnyddio sillafiad safonol."