Galw am arolygiaeth gynllunio ar wahân i Gymru

Abersoch Image copyright Google
Image caption Mae ffigyrau'n dangos bod 54% o dai Abersoch yn dai haf

Mae prif weithredwr mudiad Dyfodol i'r Iaith wedi galw am sefydlu arolygiaeth gynllunio ar wahân i Gymru.

Dywedodd Ruth Richards ei bod hefyd am weld sefydlu ardaloedd o sensitifrwydd ieithyddol arbennig wrth ystyried ceisiadau cynllunio.

Roedd hi'n ymateb i'r bwriad i gynnal refferendwm yn St Ives yng Nghernyw i gael barn y trigolion ar osod amod cynllunio y dylai pob tŷ newydd yn y dref fod ar gyfer preswylwyr parhaol yn unig.

Mae canran uchel o dai haf yn gallu bod yn broblem mewn sawl ardal yng Nghymru.

Y ganran genedlaethol yw 6%, ond mae'r ffigwr yn 14% yng Ngwynedd, gyda rhai ardaloedd ym Mhen Llŷn â mwy o dai haf na chartrefi parhaol.

Image caption Mae bwriad o gynnal refferendwm ar dai haf yn St Ives ar 5 Mai

Cafodd cais cynllunio i godi naw o dai yn Abersoch ei wrthod gan gyngor Gwynedd yn 2011 am y gallai arwain at gynnydd yn nifer y tai haf yn y pentref.

Ond cafodd ei ganiatáu ar apêl gan na ellid profi y byddai'r tai yn cael eu defnyddio fel tai haf.

'Mwy na thicio bocs'

Mae bwriad yn y cynllun unedol newydd i gynnwys polisi fydd yn gwahardd tai marchnad agored rhag cael eu hadeiladu mewn rhai ardaloedd, gan fynnu bod unrhyw dŷ newydd yn cael ei feddiannu yn barhaol gan berson lleol.

Mae Dyfodol i'r Iaith yn dweud fod y Bil Cynllunio, ddaeth i rym y llynedd, yn gam pwysig ymlaen gan fod yr iaith bellach yn ystyriaeth bwysig o ran cynllunio, ond yn ôl Ruth Richards yr her nawr yw adeiladu ar yr egwyddor yna.

"Fe fyddan ni'n galw am bennu ardaloedd yn rhai o arwyddocâd ieithyddol arbennig, a sefydlu corff fyddai'n pleidio achos y Gymraeg pe bai'n mynd i apêl," meddai.

"Gydag asesiad effaith ieithyddol ar geisiadau cynllunio, fe fyddan ni'n galw ac yn pwyso am fethodoleg sydd yn safonol, yn rymus ac yn gydnabyddedig, fel bod cynnal asesiad effaith ieithyddol yn mynd yn llawer iawn mwy na thicio bocs."