Kirsty Williams yn cyfaddef 'camgymeriad' ffioedd dysgu

Kirsty Williams

Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig wedi dweud na fydd hi'n gwneud yr un camgymeriadau ynglŷn â ffioedd dysgu prifysgolion a wnaeth ei phlaid pan oedden nhw mewn clymblaid a'r Ceidwadwyr yn San Steffan.

Mae Kirsty Williams am roi diwedd ar y system yng Nghymru sy'n golygu bod Llywodraeth Cymru yn talu hyd at £5,000 o ffioedd dysgu myfyrwyr o Gymru.

Hoffai'r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig gyflwyno system sy'n helpu talu costau byw myfyrwyr.

Fe wnaeth y blaid dorri addewid i beidio cynyddu ffioedd dysgu myfyrwyr pan oedden nhw'n rhan o'r llywodraeth glymbleidiol yn San Steffan.

'Camgymeriad ofnadwy'

Mewn dadl yn Aberystwyth nos Fercher, dywedodd Ms Williams: "Galla' i ddim dianc rhag y camgymeriad ofnadwy y gwnaeth fy mhlaid yn y glymblaid yn San Steffan.

"Fe wnaethon ni addewid nad oedden ni'n gallu ei gadw.

"Yr hyn allwn ni ei wneud nawr yw bod yn glir am beth sy'n fforddiadwy."

Ychwanegodd nad oedd yn gallu bod yn sicr bod modd talu am y grantiau ffioedd dysgu yn y dyfodol, ond nad oedd hi eisiau "gwneud yr un camgymeriadau a fy nghydweithwyr".

"Dyna pam yn yr etholiad yma rydyn ni'n cynnig polisi yr ydyn ni'n ei gredu i fod yn fforddiadwy ac mae modd ei gyflawni," meddai.

Dadansoddiad Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru, Tomos Livingstone

Fel gwleidydd profiadol - mae hi wedi bod yn Aelod Cynulliad ers y cychwyn cyntaf yn 1999 - efallai na ddylai fod yn syndod fod Kirsty Williams wedi dygymod â'r fformat heriol o gwestiynau gan y gynulleidfa.

Ond nid arddull na gallu Ms Williams yw problem y blaid mewn gwirionedd - na chwaith, i raddau ei hatebion i'r cwestiynau.

Y drafferth yw nad oes unrhyw awgrym o gwbl fod y wawr ar fin torri unwaith eto i'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Taflu cysgod o hyd mae'r penderfyniad yn 2010 i glymbleidio â'r Ceidwadwyr, a'r tro pedol ar ffioedd myfyrwyr wnaeth ddilyn.

Er mai yn San Steffan ddigwyddodd hynny, mae brand y Democratiaid Rhyddfrydol ar draws Prydain yn parhau i ddioddef.

Pryder y blaid bellach yw mai dal i gofio hynny - yn hytrach na gwrando ar gynigion diweddaraf Ms Williams - y bydd etholwyr Cymru mewn tair wythnos.

Mae'r blaid Lafur wedi addo i gadw cymhorthdal ffioedd dysgu, gan ychwanegu na fydden nhw yn cyflwyno prawf modd.

Mae'r gwrthbleidiau eraill i gyd yn bwriadu cael gwared ar y grant.

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig eisiau cyflwyno system fyddai'n talu hanner rhent myfyrwyr o Gymru, ble bynnag y bydden nhw'n astudio o fewn y DU.

Mae cynlluniau Plaid Cymru yn cynnwys torri £6,000 oddi ar ddyled ffioedd dysgu myfyrwyr sy'n dychwelyd i weithio yng Nghymru ar ôl graddio.

Fe awgrymodd UKIP y byddai'n cael gwared ar ffioedd dysgu i fyfyrwyr sy'n astudio gwyddoniaeth, meddygaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg ar yr amod eu bod yn byw a gweithio yn y DU am bum mlynedd ar ôl graddio.