O blaid newid y bleidlais?

post

Mae hi'n rhy hwyr! Ar ôl 17:00 ar 19 Ebrill dyw hi ddim yn bosib i chi wneud cais am bleidlais bost yn Etholiad y Cynulliad ar 5 Mai. Mae'n profi yn ddull poblogaidd o fwrw pleidlais, ond gyda'r oes ddigidol yn ei hanterth ydy hi'n bryd mabwysiadu dulliau electronig o ethol ein cynrychiolwyr gwleidyddol?

Mae'r bleidlais yn y post...

Cafodd y bleidlais bost ei chyflwyno gyntaf ar ddiwedd y Rhyfel Mawr.

Ar ddiwrnod yr Etholiad Cyffredinol, dydd Sadwrn 14 Rhagfyr 1918 roedd nifer o filwyr yn dal i fod dramor, felly trwy'r post oedd yr unig ffordd iddyn nhw benderfynu pwy fyddai mewn grym yn San Steffan.

O'r etholiad hwnnw ymlaen mae'r lluoedd arfog wedi cael pledleisio trwy'r post. Cafodd y fraint ei hymestyn yn 1948 i gynnwys unigolion oedd yn gallu profi nad oedden nhw yn medru bod yn bresennol mewn gorsaf bledleisio ar ddiwrnod etholiad e.e. pobl anabl neu unigolion mewn swyddi arbennig.

Yn 1985 daeth yr hawl i bobl gael pleidleisio trwy'r post os oedden nhw ar wyliau ar ddiwrnod y bleidlais, ac yn 2001 cafodd yr hawl ei ymestyn i bawb sydd ar y gofrestr etholiadol.

Mae'r dewis hwn yn boblogaidd. Yn Etholiad Cyffredinol 2015 roedd 'na bron i saith miliwn o geisiadau am bleidlais bost - 15.3% o'r holl bobl bledleisiodd.

Image copyright Getty Images
Image caption Am ba hyd y bydd y pleidleisiau papur yn cael eu cyfri?

Tegwch a thwyll

O'r bobl wnaeth gais am bleidlais bost yn 2015 fe wnaeth 82% ohonyn nhw bledleisio, roedd hyn dros 20% yn uwch na chanran y bobl gofrestrodd i fwrw eu pleidlais yn y gorsafoedd pledleisio.

Ydy hyn yn awgrymu fod yr etholwyr yn barod am newid pellach felly?

Rhydian Thomas yw Pennaeth Cymru y Comisiwn Etholiadol:

"Ers tua 2003, 'dyn ni wedi bod yn trafod sut i newid y broses gofrestru o un lle bod un person yn gyfrifol am gofrestru pawb sydd yn byw yn y tŷ hwnnw, i system ble mae pob unigolyn yn gyfrifol am gofrestru ei hun. Mae hyn wedi ei gyflwyno er mwyn osgoi twyll etholiadol.

"Ers Awst 2014, mae angen rhif yswiriant cenedlaethol ac mae modd am y tro cyntaf gofrestru i bleidleisio ar-lein, ac roedd hyn yn shifft enfawr. Am y tro cyntaf erioed roedd modd gwirio pob un person oedd wedi'i gofrestru i bleidleisio."

Brwydro difaterwch

"Doedd dim pwynt dechrau trafod newid yn y system bleidleisio tan i'r gwaith yma gael ei wneud. Nawr, mae ein system yn llawer mwy cadarn, gan gynnwys y broses o bleidleisio drwy'r post.

"Ry'n ni nawr yn bwriadu gweithio gyda gwahanol lywodraethau i edrych ar nifer o ddewisiadau a allai helpu i ysgogi rhagor o bobl i bledleisio. Er enghraifft, y posibilrwydd o gofrestru i bleidleisio ar ddiwrnod y bleidlais ac, wrth gwrs, mae e-bleidleisio yn rhan o'r ystyriaeth honno. "

Gan dderbyn felly fod ein system bleidleisio'n fwy diogel nag erioed, ai nawr yw'r amser i edrych ar y modd o bleidleisio? Mae nifer o gynlluniau peilot wedi eu cynnal yn Lloegr, gan gynnwys gorsafoedd pleidleisio wedi eu gosod mewn gwahanol leoliadau fel archfarchnadoedd, a'r gallu i bleidleisio dros y ffôn a'r we.

Image caption Cafodd y pleidleiswyr sbin gan y gwleidyddion cyn ymweld â'r orsaf bleidleisio anarferol hon yn Sir Rhydychen?

Er nad oedd yna newidiadau mawr yn nifer y bobl wnaeth fwrw eu pleidlais trwy ddefnyddio'r dulliau newydd, roedd y bobl wnaeth bleidleisio dros y we wedi hoffi'r broses ac yn ei chanmol.

Oes y cyfrifiaduron?

Ond ydy'r cynnydd yn y niferoedd sydd yn dewis pleidleisio o flaen llaw drwy'r post yn arwydd fod chwant am newid?

Dyw Rhydian Thomas ddim wedi ei argyhoeddi:

"Mae cynnydd wedi bod yn nifer y bobl sy'n pleidleisio drwy'r post ers 2001, ond mae'n dechrau edrych fel bod y nifer sydd yn bwriadu cofrestru wedi sefydlu a ddim yn debygol o godi llawer iawn o hyn ymlaen.

"Does dim tystiolaeth hyd yn hyn fod e-bleidleisio'n electroneg yn mynd i ddenu tŵf aruthrol yn niferoedd y bobl fyddai'n pleidleisio.

"Yn fras, mae llawer o waith i wneud eto o ran y dechnoleg a meddylfryd y boblogaeth cyn y gallwn ni ddweud yn bendant a fyddai'n gwneud gwahaniaeth sylweddol yn niferoedd yr etholwyr sy'n pleidleisio.

"Mae profiadau'r flwyddyn neu ddwy ddiwethaf yn awgrymu taw pethau syml hen ffasiwn fel tân yn y bol, ac yn fwy pwysig efallai, gostwng yr oed pleidleisio i 16 fydd y ffactorau pwysicaf i godi nifer y pleidleisiwyr yn y dyfodol agos."

Image caption Roedd pobl ifanc 16 oed yn gallu pleidleisio yn Refferendwm yr Alban yn 2014

Straeon perthnasol