Addysg: Pwnc sy'n poeni pobl ifanc

Ar 5 Mai mi fydd Aelodau Cynulliad yn cael eu hethol i gynrychioli pobl Cymru. Ond beth yw'r pynciau sydd yn poeni pobl ifanc ar lawr gwlad?

Mae Cymru Fyw wedi bod yn holirhai o Gymry Ifanc 2016, ac addysg oedd y prifbwnc oedd yn bwysig i'r mwyafrif ohonyn nhw.

Rhodri Burnett, 18, o Gaerfyrddin. Mi fydd yn pleidleisio dros y blaid Lafur yng Nghymru.

Mae Rhodri yn ei flwyddyn olaf yn yr ysgol. Mae'n teimlo bod angen gwelliannau yn y system addysg. "Dw i'n meddwl bod rhaid cael mwy o gysylltiad rhwng athrawon yn yr ysgolion a'r llywodraeth. Dw i'n falch i weld bod pethau fel y Fagloriaeth Gymraeg yn dod mewn. Dw i eisiau gweld system addysg Cymru yn addasu i ofynion disgyblion Cymru yn lle bod yn rhy debyg i'r un yn Lloegr."

Y gwasanaeth iechyd yw'r pwnc arall sydd yn bwysig iddo.

"Mae'r pleidiau yn dweud bod rhaid i ni wneud hyn a rhoi mwy o arian mewn iddo fe ond 'dyn ni 'mond yn cael yr arian mae San Steffan yn rhoi i ni. Felly mae'n anodd iawn gwneud pethau mawr i newid y system. Ond dw i'n meddwl bod Llafur yn gallu gwneud mwy i reoli fe yn fwy tyn."

Becky Ricketts, 21. Astudio yng Nghaerfyrddin. Dyw Becky ddim wedi penderfynu eto pa blaid fydd yn cael ei phleidlais.

Fel nifer o bobl ifanc mae ganddi farn bendant ar ffioedd myfyrwyr. Dyw hi ddim yn meddwl y dylen nhw gael eu diddymu'n llwyr. "Mae eu lleihau nhw'n iawn ond mi fyddai cael gwared â nhw bron yn niweidiol. Mi ydyn ni angen myfyrwyr i dalu ffioedd myfyrwyr i helpu'r economi am fod yna gymaint ohonom ni."

Mae'n teimlo bod yna doriadau yn cael eu gwneud yn y llefydd anghywir. "Ddylen ni ddim gwneud toriadau ym myd addysg. Dyma'r dyfodol. Os ydyn ni'n torri nawr mae'n mynd i gael effaith negyddol am nifer o flynyddoedd. Mi ydyn ni yn mynd i stryglo gyda phrentisiaethau, prifysgolion, swyddi. Fydd gyda ni ddim yr un math o gymdeithas sydd gyda ni nawr. "

Siôn Davies, 18, o Lanelli. Mi fydd yn pleidleisio dros y blaid Geidwadol yng Nghymru.

"Bydd yr iaith Gymraeg yn bwysig iawn i fi pan dw i'n meddwl am bleidleisio - pethau fel y Coleg Cymraeg Cenedlaethol - sut maen nhw'n mynd i ariannu hwnna? Beth maen nhw`n feddwl am addysg Gymraeg?"

Mae o eisiau i'r llywodraeth nesaf hefyd gefnogi busnesau bach. "Dw i jest yn credu bod pobl sydd yn rhedeg busnesau bach ac yn sefydlu busnesau - maen nhw'n rili uchelgeisiol. Maen nhw jest moyn symud ymlaen yn y byd, gwneud yn dda ar gyfer eu teuluoedd."

Mark Norton, 20, o Lanelli. Mi fydd yn pleidleisio dros UKIP yng Nghymru.

Mae Mark eisiau i bobl ar lawr gwlad gael mwy o lais.

"Dw i eisiau gweld y blaid sydd yn cynnig y ffordd orau ymlaen o ran datganoli mwy o bwerau i ranbarthau a siroedd, fel bod pobl Cymru yn chwarae fwy o rôl yn eu bywydau nhw er mwyn penderfynu sut mae eu gwasanaethau cyhoeddus nhw yn cael eu rhedeg."

Mae addysg yn bwnc o bwys iddo. "Dw i eisiau gweld plaid sydd yn deg i fyfyrwyr yn enwedig rhai yn y brifysgol a rhai sydd yn hybu dewis ynglŷn â sut maen nhw yn mynd ati i astudio ble maen nhw eisiau."

Brychan Williams, 18, o Landeilo. Mi fydd yn pleidleisio dros y Democratiaid Rhyddfrydol yn rhanbarthol.

Mae Brychan yn teimlo bod yna ormod o dorri'n ôl wedi bod yn y sector addysg. "Ni'n rhoi gormod i'r NHS a dim digon mewn i addysg. Mae pobl yn dweud trwy'r amser bod gyda ni ddim digon o bres i dalu ffioedd dysgu a phethe fel 'na ond er hyn ni'n taflu mwy o bres mewn i'r NHS, lot mwy."

Mae o eisiau i Lywodraeth Cymru arwain y ffordd gydag ynni adnewyddol. "'Dyw'r ffordd ni'n byw ar y foment ddim yn gynaliadwy. Yn y dyfodol byddwn ni'n difaru os ni ddim yn gwneud rhywbeth amdano fe."

Elfed Wyn Jones, 18, o Drawsfynydd. Mi fydd yn pleidleisio dros Blaid Cymru.

Myfyriwr yw Elfed ac mae ffioedd prifysgolion yn bwnc sydd yn ei boeni. "Os fysa'r Cynulliad nesaf yn sgrapio'r maintenance grant fysa hynny'n gwneud i fi gwestiynu a fyswn i'n gallu aros yna mwyach."

Mae gwarchod y Gymraeg hefyd yn bwysig. "Fel mae'r dywediad yn dweud, cenedl heb iaith, cenedl heb galon. Fysa ni'n colli ein hunaniaeth os fysa'r iaith yn mynd."

Greg Thomas, 24, o Lanfair ym Muallt. Dyw Greg ddim wedi penderfynu eto pa blaid fydd yn cael ei bleidlais.

Diffyg gwaith yw un pryder. "Mae llawer o fy ffrindiau wedi gadael Llanfair ym Muallt i fynd i'r brifysgol. Maen nhw wedi dod yn ôl nawr ac yn gorfod gadael eto. Does yna ddim swyddi i raddedigion o gwmpas fan hyn."

Uno ysgolion a chau rhai bach yw'r pwnc arall sydd yn codi ei wrychyn. "Mi oedd o fudd i fi bod mewn dosbarth llai o faint a dw i'n meddwl mai un o'r agweddau unigryw byw mewn ardal wledig yw eich bod chi'n gallu mynd i ysgol fach a chael y buddion o wneud hynny."

Mae Cymry Ifanc 2016 yn cynnwys 50 o bobl ifanc dan 25 oed, sydd â safbwyntiau amrywiol, ac sy'n gymwys i bleidleisio yn Etholiad y Cynulliad 2016.

Byddan nhw'n cyfrannu i raglenni a gwasanaethau digidol y BBC ar ystod o bynciau rhwng nawr a'r etholiad ym mis Mai.