Cadw Cymraeg y glannau yn fyw

Image copyright Rondo
Image caption Mae Bedwyr Rees wedi bod yn crwydro glannau Cymru yn y gyfres deledu 'Arfordir Cymru'

Rydyn ni mewn perygl o "golli adnabod ar ein hunain" os na wnawn ni warchod enwau llefydd ardaloedd glan môr Cymru, meddai'r cyflwynydd Bedwyr Rees.

Bydd cyflwynydd y gyfres 'Arfordir Cymru' ar S4C yn siarad am enwau lleol yr arfordir yng nghynhadledd Mynyddoedd Pawb ddydd Sadwrn, 23 Ebrill yng Nglan-llyn ger y Bala.

Yma mae Bedwyr yn sôn wrth Cymru Fyw am bwysigrwydd traddodiad morwrol cyfoethog Cymru a chyfrifoldeb pob un ohonon ni i gofnodi'r hanes sydd ynghlwm wrth enwau lleol y glannau - cyn ei bod hi'n rhy hwyr.


Halen yn y gwaed

Mae yna ymfalchïo mawr yn etifeddiaeth wledig Cymru a bri ar y bywyd cefn gwlad ond dyw'r un pwyslais ddim yn cael ei roi ar ein traddodiad morwrol cyfoethog.

Mae gan Gymru bron i 1700 o filltiroedd o arfordir godidog. Hyd at ganol y ganrif ddiwethaf, fe fuasai trigolion gwrywaidd y glannau yn fwy cyfarwydd â Newfoundland, Auckland a Hamburg na'r pentrefi cefn gwlad cyfagos iddynt yng Nghymru.

Image copyright S4C

Byddai'r plant yn mynd i'r môr yn 13 oed, gan amlaf dan ofal capten lleol. Dyna ddechrau ar fywyd sy'n swnio'n rhamantus i ni heddiw ond oedd mewn gwirionedd yn enbyd o beryglus.

Roedd y merched hefyd yn ymwneud â'r môr - yn trwsio rhwydi, yn halltu pysgod neu'n gofalu am systemau telegram. Gyda halen yn llifo trwy waed y gymdeithas gyfan, roedd hi'n annatod fod dylanwad y môr ar ddywediadau'r bobl a'r enwau yr oeddynt yn eu bathu ar nodweddion eu milltir sgwâr.

'Bygythiad' i'n glannau

Erbyn heddiw, man chwarae ydy glannau'r wlad, yn union fel y mynyddoedd.

Daw hynny â bygythiadau yn ei sgil. Cafodd Mynyddoedd Pawb ei sefydlu er mwyn bwydro i ddiogelu a chadw enwau, iaith a llên gwerin yr uchelderau. Rydw i'n cydymdeimlo'n llwyr. Sawl gwaith wrth grwydro'r arfordir, rydw i wedi clywed rhywun yn dweud: "Hwn a hwn fyddai wedi gwybod enw fan'na, ond mae o wedi marw."

Image copyright Rondo
Image caption Bedwyr yn sgwrsio gydag Ernest Evans ar Ynys Enlli

Wrth i gyfansoddiad cymdeithas newid, mae enwau Saesneg yn codi ar hyd y glannau i ddisodli'r enwau blaenorol. Mae enwau lleoedd yn gofnod o bobl, o hanes ac o dirwedd. Yn aml, yr enw ydy'r unig ddarn o dystiolaeth o weithgaredd y gorffennol sydd yn aros. Wrth golli'r rhain, rydyn ni'n colli adnabod arnon ni ein hunain. Tydw i ddim yn ieithydd, ond rydw i'n gwybod yn reddfol fod hynny yn fy mrifo i'r byw.

Ewch i sgwrsio

Fe fuaswn i'n annog pawb i fynd allan i sgwrsio gyda thrigolion hŷn eu cymdeithas. Mae hanes llafar yn eithriadol o bwysig.

Gwelais arwydd mewn archfarchnad unwaith yn hysbysbu rhyw fargeinion: "Once they're gone, they're gone." Mae'r un peth yn wir am ein henwau a'n llên gwerin.

Peidwch ag oedi, a phwy a ŵyr na chewch eich synnu wrth grwydro arfordir Cymru. Rydw i'n cofio eistedd ar ben Carn Llidi yn Sir Benfro a syllu ar yr olygfa. Fe wnes i (a finnau'n Fonwysyn rhonc) droi at y criw fel hyn, "'Dw i'n mynd i ddeud rwbath ofnadwy rwan hogia. Ma fan'ma yn well na Sir Fôn."

Wrth lwc, doedd y camera ddim yn cofnodi ar y pryd!

Hefyd ar y BBC