Gwahardd athrawes am ddwy flynedd ar ôl gwrandawiad

Ysgol Gynradd Parc Image copyright Google
Image caption Roedd Nichola Huxley yn gweithio yn Ysgol Gynradd Parc yn Llai, ger Wrecsam

Mae athrawes feithrin wedi cael ei gwahardd am ddwy flynedd ar ôl gwrandawiad disgyblu gan Gyngor y Gweithlu Addysg.

Roedd Nichola Huxley wedi cyfaddef llusgo tri bachgen tair blwydd oed ar draws carped a gweiddi arnyn nhw.

Penderfynodd y pwyllgor yn Ewlo yn Sir y Fflint nad oedd cyflwr narcolepsi - anhwylder cysgu - yn rheswm am ei hymddygiad, fel yr oedd yn cael ei honni.

Doedd hi ddim yn bresennol yn y gwrandawiad oherwydd yr hyn gafodd ei ddisgrifio fel materion iechyd.

Diswyddo

Clywodd y gwrandawiad gan ddwy athrawes gynorthwyol am y digwyddiadau ar wahân mewn cyfnod o ddwy awr ym mis Medi 2014, pan oedd y tri bachgen newydd ddechrau yn Ysgol Gynradd Parc, Llai, ger Wrecsam.

Roedd Huxley yn ei hail flwyddyn fel athrawes feithrin yno ar ôl dysgu am tua saith mlynedd yn yr ysgol iau yno.

Cafodd ei diswyddo yn dilyn ymchwiliad, cyn colli apêl.