Canolfan Gwlyptir Llanelli yn dathlu 25 mlynedd

Canolfan Gwlyptir Llanelli Image copyright Canolfan Gwlyptir Llanelli

Mae canolfan gwlyptir yn Llanelli yn dathlu 25 mlynedd ers iddo gael ei agor gan Syr David Attenborough.

Mae Canolfan Gwlyptir Llanelli, gafodd ei agor ar 17 Ebrill 1991, wedi croesawu dros 1.5 miliwn o bobl trwy ei ddrysau ers hynny.

Mae'r dathliadau'n cynnwys arddangosfa luniau o'r datblygiadau a'r digwyddiadau dros y blynyddoedd.

Bydd perfformiad hefyd o 'You Should Ask Wallace' Theatr na nÓg gan yr actor Ioan Hefin.

Dywedodd rheolwr y ganolfan, Nigel Williams: "Mae dydd Sul yn gyfle i ni ddiolch i'r staff a'r gwirfoddolwyr, ac i'r cyhoedd sydd wedi ein cefnogi."

Image copyright Canolfan Gwlyptir Llanelli
Image copyright Canolfan Gwlyptir Llanelli