Radio Ysbyty Gwynedd yn dathlu 40 mlynedd o ddarlledu

Radio Ysbyty Gwynedd Image copyright Radio Ysbyty Gwynedd
Image caption Michael Aaron, Sara Wyn a Derec Owen yn gwirfoddoli ar Radio Ysbyty Gwynedd

Bydd un o wasanaethau radio ysbytai'r gogledd yn dathlu carreg filltir y penwythnos hwn.

Mae Radio Ysbyty Gwynedd yn dathlu 40 mlynedd o ddarlledu i gleifion a chymuned yr ysbyty.

Fe ddechreuodd y gwasanaeth yn yr hen ysbyty C&A yn 1976, a chafodd ddiwrnod o weithgareddau ei drefnu ddydd Sadwrn i nodi'r achlysur.

O 10:00 ymlaen, roedd cyflwynwyr Radio Ysbyty Gwynedd o'r gorffennol a'r presennol yn cyflwyno sioeau byw yn stiwdio'r ysbyty.

Mae nifer o gyflwynwyr wedi dechrau eu gyrfaoedd gyda gorsaf Radio Ysbyty Gwynedd, Kev Bach o Orsaf Capitol yn un ohonynt, a Stephen 'Weiran Gaws' Edwards, cyn-gyflwynydd Giang Bangor ar BBC Radio Cymru yn un arall.

Bydd adloniant byw gan amrywiaeth o berfformwyr yng nghyntedd yr ysbyty gan artistiaid yn cynnwys Arfon Wyn, Broc Mor ac fe fydd Caplan yr Ysbyty, Y Parchedig Wyn Roberts, yn gwneud ymddangosiad arbennig fel Elvis.