Gweilch 47-10 Treviso

Image copyright Huw Evans picture agency

Mae'r Gweilch wedi llwyddo i gadw eu gobeithion o orffen yn y chwech uchaf yn y Pro12, wedi buddugoliaeth hawdd yn erbyn Treviso.

Fe lwyddodd Dan Evans, Dan Baker ac Owen Watkin i groesi'r llinell yn yr hanner cyntaf, gan roi'r Gweilch 21-3 ar y blaen erbyn yr egwyl.

Nid oedd hynny yn ddigon i'r Gweilch, gan fod Olly Cracknell, Hanno Dirksen, Ben John wedi ychwanegu at y ceisiadau yn yr ail hanner, yn ogystal â chais arall gan Dan Evans, ac fe lwyddodd Dan Biggar i drosi chwech.

Fe sgoriodd Alberto Sgarbi un cais o gysur i Treviso, ac fe gafodd y blaenasgellwr Dean Budd ei hel o'r maes wedi iddo dderbyn ail gerdyn melyn.