Cyhuddo dyn wedi anafiadau i gerddwyr ym Merthyr Tudful

Merthyr Image copyright Heddlu De Cymru

Mae dyn wedi cael ei gyhuddo o achosi anafiadau corfforol difrifol wedi i gar daro dwy ddynes ym Merthyr Tydfil.

Fe gafodd y ddwy, 19 a 21 oed, eu hanafu'n ddifrifol yn dilyn y digwyddiad yn ardal Y Rink yn y dref am tua 02:45 fore Sadwrn.

Maen nhw'n parhau yn Ysbyty'r Tywysog Siarl.

Dywedodd Heddlu'r De bod y gŵr 37 oed hefyd yn wynebu cyhuddiadau o ymosod a gyrru dan ddylanwad alcohol, a bydd yn ymddangos gerbron Ynadon y dref ddydd Llun.

Ychwanegodd y llu bod car Renault Megane du wedi'i gymryd o'r safle ar gyfer profion fforensig.

Image copyright Google
Image caption Cafodd y ddwy ddynes eu taro yn ardal Y Rink