Morgannwg ar y blaen o drwch blewyn

Stadiwm Swalec

Mae Sir Gaerlŷr 93 o rediadau'r tu ôl i Forgannwg ar ddiwedd trydydd diwrnod eu gêm ym Mhencampwriaeth y Siroedd.

Ond roedd y diwrnod hwnnw'n un gwael i Forgannwg, ac maen nhw'n wynebu talcen caled i beidio colli'r gêm.

Ar ddiwed y batiad cyntaf roedd gan Sir Gaerlŷr fantais o 79 o rediadau, ond fe gollodd y tîm cartref wicedi yn gyson yn ystod y dydd.

Heblaw am gyfraniad o 57 gan Aneurin Donald, mi fethodd y batwyr â gwneud eu marc, ac ar ddiwedd y dydd roedd Morgannwg ar 172 am 8 wiced.

Mae gan yr ymwelwyr ddiwrnod cyfan felly i gipio'r ddwy wiced arall a chyrraedd cyfanswm weddol fach i ennill.