Ap BBC Cymru Fyw

Image caption Mae ap newydd BBC Cymru Fyw yn gweithio ar dabledi a ffonau

Mae fersiwn newydd o ap BBC Cymru Fyw ar gael nawr. Os wnaethoch chi lawrlwytho ap Cymru Fyw cyn Ebrill 2016, mi fydd angen i chi ddilyn un o'r dolenni isod er mwyn ei ddiweddaru i'r fersiwn newydd:

Cliciwch yma i'w lawrlwytho i ddyfais Apple (iPad neu iPhone)

Cliciwch yma i'w lawrlwytho i ddyfais Android (tabled neu ffôn)

Mae'n addas ar gyfer ffonau a thabledi Apple ac Android ac mae'n rhad ac am ddim. Dyma'r lle delfrydol i gael y newyddion a'r diweddaraf o Gymru, mewn un lle, yn Gymraeg.

Dyma'r adrannau sydd i'w gweld ar yr ap newydd:

  • Prif Straeon - y prif straeon newyddion
  • Cylchgrawn - erthyglau nodwedd, darnau barn, blogiau, orielau lluniau a llawer mwy
  • Gwleidyddiaeth - hynt a helynt y byd gwleidyddol yng Nghymru
  • Ardaloedd - y newyddion lleol o ranbarthau Cymru
  • Radio - cyfle i wrando ar eich hoff raglenni ar BBC Radio Cymru

Mae llif byw dyddiol Cymru Fyw hefyd ar gael ar yr ap (sef y diweddaraf o Gymru mewn llif o bytiau a dolenni i wefannau amrywiol). Gallwch ei ddilyn drwy dapio ar y stori 'YN FYW' yn yr adran Prif Straeon.

Gallwch hefyd gyfrannu, drwy anfon eich straeon, negeseuon a lluniau yn syth at BBC Cymru Fyw. Gwnewch hyn drwy dapio ar y botwm 'Cysylltwch â ni' yn yr ap, neu drwy e-bostio cymrufyw@bbc.co.uk.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
BBC Cymru Fyw

Mae popeth ar flaenau eich bysedd (ac yn eich poced) gydag ap BBC Cymru Fyw.