Morgannwg yn colli yn erbyn Sir Gaerlŷr yn y bencampwriaeth

Paul Horton Image copyright Getty Images
Image caption Sgoriodd Paul Horton 64 o rediadau wrth i Sir Gaerlŷr gyrraedd y targed o 113 yn hawdd

Mae Morgannwg wedi colli i Sir Gaerlŷr yn eu gem gyntaf o'r tymor ym Mhencampwriaeth y Siroedd yng Nghaerdydd.

Dechreuodd y tîm cartref gyda 93 o rediadau ar y blaen ar 172 am 8 ar ddechrau'r diwrnod olaf, gydag ond dwy wiced ar ôl yn eu hail fatiad.

Dim ond 19 rhediad arall sgoriodd batwyr Morgannwg cyn colli eu wicedi, wrth i'r tîm cartref orffen eu hail fatiad ar 191.

Fe wnaeth Ben Raine gymryd pedair wiced am 57 rhediad.

Dim ond 36 pelawd oedd Sir Gaerlŷr eu hangen i gyrraedd y targed o 113, a hynny heb golli wiced.

Sgoriodd Paul Horton 64 ac Angus Robson 49 i'r ymwelwyr, wnaeth guro Morgannwg o 10 wiced.