Ynni: Pwnc sy'n hollti barn

Melinau

Sut fydd Cymru'n cynhyrchu ei thrydan yn y dyfodol, a pha rôl fydd gan weinidogion Llywodraeth Cymru wrth ddylanwadu ar hynny?

Ar gyrion yr holl ddadlau ynglŷn ag iechyd, addysg a'r economi yn ystod ymgyrch yr etholiad, mae ynni'n bwnc sy'n amlygu gwahaniaethau rhwng y pleidiau hefyd.

Mae'n ddarlun cymhleth gan fod rheolaeth dros y broses o gynhyrchu trydan, a'i gludo i'n cartrefi ni wedi'i rannu rhwng gweinidogion yn San Steffan a Bae Caerdydd.

Ond mae cyrff sy'n cynrychioli'r diwydiant yn gytûn y bydd polisi ynni yn fwy o gonsyrn i bwy bynnag sy' mewn grym yn y Senedd ar ôl 5 Mai nag erioed o'r blaen.

Yn ôl un, RenewableUK Cymru, dylai'r llywodraeth nesa' benodi Gweinidog dros Ynni.

Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru'n gyfrifol am ddatblygiadau hyd at 50 MW. Fe fydd hynny'n cynyddu i 350 MW.

I roi gwell syniad i chi o raddfa prosiectau ynni o'r fath, mae'r fferm wynt fwya' yng Nghymru a Lloegr sef Pen y Cymoedd a chapasiti cynhyrchu o 228 MW. Bydde'r morlun ym Mae Abertawe yn 320 MW.

Gallai atomfa niwclear Wylfa Newydd ar Ynys Môn gynhyrchu 2700 MW, felly bydde rheolaeth dros hwnnw yn parhau yn nwylo Llywodraeth y DU.

'Cystadleuaeth rhwng y pleidiau'

Mewn gwirionedd felly, ac am y tro, mwy o reolaeth dros gynlluniau ynni adnewyddol mawr fydd gan Lywodraeth Cymru.

Yn ôl y ffigyrau diweddara' fe wnaeth Cymru gynhyrchu oddeutu 20% o'i thrydan o ffynonellau adnewyddol yn 2014.

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn dweud y byddan nhw'n anelu i sicrhau bod ffynonellau adnewyddol yn darparu 100% o anghenion trydan Cymru erbyn 2025, y blaid Werdd erbyn 2030 a Phlaid Cymru erbyn 2035.

Image caption David Clubb

Dywedodd David Clubb, rheolwr RenewableUK Cymru, ei bod hi'n "galonogol iawn" i'r sector bod 'na "bach o gystadleuaeth yn datblygu rhwng y pleidiau gwleidyddol".

Mae e o'r farn y byddai cyrraedd targedau o'r fath yn gwbl bosib gyda chefnogaeth wleidyddol, a byddai hi'n un ffordd o greu swyddi ar draws y wlad.

Cymryd amser

"Ry'n ni'n gwybod bod yr Alban wedi mynd yn bell iawn yn y cyfeiriad yma a byddan nhw bron yn sicr yn cynhyrchu eu holl drydan o ffynonellau adnewyddol erbyn 2020."

Ond mae'r biwrocratiaeth sy' ynghlwm a sefydlu prosiectau ynni newydd yn her, yn ôl Keith Jones sy'n gyfarwyddwr ar sawl cynllun ynni cymunedol ar draws Gwynedd a Môn.

Image caption Keith Jones

Fe gwrddes i ag e wrth droed Mynyddoedd y Carneddau yng Ngwynedd lle mae "pedwar blynedd o stress" wedi ildio i gynllun ynni hydro newydd yn nyffryn Anafon uwchben Abergwyngregyn.

Mae'r trydan sy'n cael ei gynhyrchu yn ddigon i gyflenwi 285 o gartrefi. Mae'n cael ei werthu i'r Grid Cenedlaethol a'r incwm yn cael ei ddefnyddio i gefnogi'r gymuned leol.

"Mae uchelgais a gweithredu ar yr uchelgais hwnnw yn ddau beth gwahanol yng Nghymru," esboniodd Keith Jones.

"Ydy mae Llywodraeth Cymru o'r diwedd yn cael rheolaeth dros gynllun safleoedd, ond mae'r peth sy'n dosbarthu'r ynni - y grid - a'r cymorthdaliadau sy' ar gael i brosiectau newydd i gychwyn dal i fod yn nwylo San Steffan."

"Mae'n gymhleth iawn, iawn - fe gymerodd yr hydro bychan yma flynyddoedd i'w sefydlu. Mae angen i lot o bethau ddod at ei gilydd cyn ein bod ni'n medru gweithredu ar yr uchelgais a'r adnoddau sy' gan Gymru."

Addewidion

Yn eu maniffesto, dweud y byddan nhw'n datblygu mwy o brosiectau ynni adnewyddadwy ac yn cefnogi morluniau sy'n defnyddio grym y llanw, mae Llafur.

Mae'r Ceidwadwyr yn dweud y byddan nhw'n cael gwared ar reolau cynllunio sy'n arwain at "orddibyniaeth" ar ffermydd gwynt, gan annog amrywiaeth o brosiectau ynni adnewyddol.

Mae UKIP yn gwrthwynebu'r hyn maen nhw'n ei alw'n "ffermydd gwynt hyll" gan ddweud y byddan nhw'n cefnogi cynlluniau ynni adnewyddol sy'n gost-effeithiol.

Yn ôl Mairede Thomas, Cadeirydd Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig Sir Fôn, mae 'na wahaniaethau clir yn datblygu rhwng y pleidiau, yn enwedig ynglŷn â faint o ddylanwad fydd gan bobl leol wrth benderfynu lle mae prosiectau ynni newydd yn cael eu lleoli.

Mae sawl fferm wynt mawr ar yr ynys yn ogystal â chynlluniau i godi parc solar fwyaf Prydain wedi profi'n ddadleuol.

"Yn amlwg mae tyrbinau mawr yn cael effaith ar y tirwedd ac mae hynny'n bwysig iawn ar Ynys Môn gan fod gennym ni ddiwydiant twristiaeth lewyrchus - dyma chi brif gyflogwr yr ynys."

"Pobl leol sy'n 'nabod eu hardal nhw orau a nhw sy'n gwybod be sy' angen i hybu'r economi'n lleol. Tra bod y 'nghalon i'n dweud y bydde hi'n hyfryd cael ein holl drydan ni o ffynonellau adnewyddol - dwi'n credu bod hynny braidd yn optimistig."

Mae ynni'n bwnc sy'n hollti barn felly - ond gyda phwerau newydd ar y gweill, a thargedau statudol i'w cyrraedd i dorri allyriadau carbon Cymru 40% erbyn 2020 - mae'n bwnc hefyd sy'n anodd ei osgoi i'r gwleidyddion.

Mae modd darllen mwy am addewidion y prif bleidiau ar Adnoddau Naturiol ac Amaeth yn etholiad Cynulliad Cymru drwy glicio yma.