Bydd mawr y rhai bychain

Dydd Iau, 21 Ebrill yw Diwrnod Rhyngwladol Twitter i Ieithoedd Llai. Mae'n brosiect ar y cyd rhwng Social Media Alba yn yr Alban ac Afûk, asiantaeth datblygu iaith Friesland yn yr Iseldiroedd, ac yn cael ei gydlynu gan y prosiect Ewropeaidd TOSTA 2016.

Cafodd y dydd ei sefydlu ar sail cryfder y dyddiau trydar yn iaith Friesland - Fryske TwitterDei - a Gaeleg yr Alban - Là na #Gàidhlig.

Amcan y digwyddiad yw i annog nifer o ieithoedd bach Ewrop i ddathlu eu hiaith ar yr un diwrnod gan ddefnyddio'r hashnod #TIML2016 ('This is My Language 2016), gyda'r gobaith o 'trendio' a chodi ymwybyddiaeth o'r ieithoedd ar y cyd.

Image copyright Là na #Gàidhlig

Seumaidh Wallace o Là na #Gàidhlig fu'n sôn am bwysigrwydd cyfryngau cymdeithasol i ddyfodol Gaeleg yr Alban:

Mae Diwrnod Twitter Gaeleg yr Alban wedi dod yn ddydd digidol ar gyfer yr iaith ar draws y byd, gan ein bod ni'n ei defnyddio nid yn unig ar Twitter, ond hefyd ar safleoedd eraill fel Instagram, Facebook, WhatsApp, Youtube a radio digidol. Mae'r dydd wedi dod yn bwysicach i bobl wrth iddyn nhw ymwneud mwy â'r byd digidol o'u cwmpas.

Mae hyn yn newyddion da i 'genhedlaeth x', gan ei bod hi'n golygu fod y genhedlaeth hŷn yn dechrau dal i fyny gyda'r defnydd o ddigidol. Am amser hir, roedd academyddion yn ystyried y cyfryngau cymdeithasol a thechnoleg digidol yn fygythiad, ond heddiw, mae defnyddio ac addasu ieithoedd lleiafrifol fel Gaeleg gyda'r dechnoleg yn gwneud yr iaith yn fwy atyniadol i'r rheiny sydd yn derbyn addysg cyfrwng Gaeleg, gan fod eu byd yn llawn dyfeisiau digidol. Er mwyn i ieithoedd sydd mewn perygl allu parhau, mae'n rhaid bod yn arloesol i gadw diddordeb ac i ddangos mai nid o fewn y stafell ddosbarth yn unig mae lle ieithoedd bach.

Mae'r defnydd o hashnodau yn arbennig o ddefnyddiol, gan eu bod yn darparu darlun o gymunedau gwahanol. Mae'r hashnod #Gàidhlig yn rhoi inni syniad o beth sydd yn y newyddion a beth sydd yn trendio yn y gymuned yn ehangach, a gall hyn fod yn werthfawr i rhywun sydd eisiau dysgu'r iaith a dysgu mwy amdani a'i diwylliant, neu i academyddion, ymchwilwyr cymdeithasol a marchnatwyr.

Gobeithio bydd y diwrnod yma yn annog defnyddwyr yr ieithoedd i'w defnyddio wrth gyfathrebu'n ddigidol, nid yn unig un diwrnod y flwyddyn, ond pob diwrnod.


"Dh' fhàs Latha Twitter na Gàidhlig ann an dà bhliadhna a bhith latha didseatach na Gàidhlig air feadh an t-saoghail. Tha sin a' ciallachadah nach eil sinn dìreach a' cleachdadh Twitter leis a' Ghàidhlig ach cuideachd air Facebook, Instagram, WhatsApp, Youtube is Rèidio Didseatach. Leis an àrainneachd didseatach a th' againn an-diugh, tha Là na #Gàidhlig a' fàs nas cudromaiche do dhuine a tha a' cleachdadh a' chànain.

"Seo deagh naidheachd airson na h-oigridh oir tha e a' ciallachadh 's dòcha gu bheil seann dhaoine a' fàs cleachdte ris an t-saoghal didseatach beag air bheag. O chionn linntean, 's e beachd a bh' ann aig luchd-acadaimigeach gu r e bagairt do mhion-chànain a bha aig na meadhanan sòisealta agus tèicneòlas ùr.

"Ach tha am beachd seo ag atharrachadh, gu fortanach, agus feumaidh sinn a bhith nas subailte leis a' chànain agus cleachdadh de rudan didseatach gus cànain a bhrosnachadh, gu h-àraidh a thoirt misneachd air sgoilearan cò tha dol tro Foghlam Mheadhanan na Gàidhlig an-diugh. Tha innealan-didseatach glè chumanta dhaibh agus mar sin tha na meadhanan didseatach a' toirt cothroman dhaibh gus Gàidhlig a chleachdadh taobh a-muigh na sgoiltean: aig an taigh, air na sràidean, le teaghlach, m.s.a.a..

"Tha cleadhadh de thagaichean-hais glè fhreagarrach an-diugh oir tha iad a' toirt uinneag dhan saoghal na Gàidhlig. Tha e a' toirt lèirsinn is fiosrachadh do dhaoine aig a bheil ùidh sa chànain - m.e. luchd-labhairt, luchd-ionnsachaidh, luchd-rannsachaidh agus luchd-margaideachd.

"Tha sinn an dòchas gum bi Là na #Gàidhlig agus Latha Twitter Eadar-Nàiseanta airson Cànain nas Bìge deagh cothroman agus tachartas feumail a bhrosnachadh duine gus cànain eile a chleachdadh gu tric agus chan eil dìreach airson aon latha Gattgach bliadhna."

Fryske Twitterdei Image copyright Fryske Twitterdei

Mae Mirjam Vellinga yn gweithio i Afûk, ac yn sôn mwy am bwysigrwydd y diwrnod yma i iaith Friesland, Frysk:

Cafodd Diwrnod Twitter Frysk ei drefnu am y tro cyntaf yn 2011 fel rhan o ymgyrch hyrwyddo iaith Afûk, 'Praat mar Frysk'. Y rheswm pwysicaf am drefnu'r dydd oedd er mwyn dathlu ein hiaith a'i gwneud yn fwy amlwg i eraill. Maen rhaid iddi fod yn rhywbeth mae pobl eisiau bod yn rhan ohoni. I ni, mae hi'n bwysig fod pobl yn defnyddio'r iaith, hyd yn oed os ydyn nhw'n gwneud ambell i gamgymeriad. Mae'r diwrnod Twitter yn gyfle da i wneud hynny ac mae'n annog pobl i'w defnyddio yn amlach - defnyddiwch hi am eich bod chi'n gallu!

Roedd llwyddiant y Diwrnod Twitter Frysk cyntaf yn sioc enfawr i ni! Roedd cymaint o bobl eisiau dathlu gyda ni. Ac mae wedi parhau yn llwyddiant flwyddyn ar ôl blwyddyn. Mae miloedd o bobl yn cymryd rhan bob blwyddyn; pobl enwog o Friesland, cwmnïoedd, gwasanaethau cyhoeddus, bwytai, yr heddlu, y swyddfa bost, gwleidyddion, cerddorion…

Mae miliynau o bobl yn gweld y negeseuon trydar ac mae'r hashnod #Frysk yn trendio y dydd hwnnw. Cai'r digwyddiad sylw gan y cyfyngau hefyd, sydd yn gyfle gwych i ni gael rhannu ein stori. Yn dilyn ein llwyddiant, cafodd Là na #Gàidhlig ei sefydlu yn 2014, sydd hefyd yn llwyddiannus. A nawr, mae gennyn ni'r diwrnod rhyngwladol cyntaf i ddathlu ieithoedd llai. Er nad ydyn ni'n deall ein hieithoedd ein gilydd bob amser, mae un peth yn gyffredin: rydyn ni i gyd yn caru ein hiaith!

Mae ieithoedd bach yn gwneud ein byd yn fwy.


"De Fryske Twitterdei is foar it earst organisearre yn 2011 as ûnderdiel fan de Praat mar Frysk-kampanje. Wichtichste reden fan it yn libben roppen fan dy twitterdei is dat wy ús taal fiere wolle en sichtber meitsje wolle en dat it in feest is foar de brûkers. It súkses fan dy earste twitterdei wie foar ús in folsleine ferrassing.

"Der wiene safolle minsken dy't it feestje mei ús fiere woene. En dat is sa bleaun. Alle kearen dogge der tûzenen minsken oan mei, ek in hiel soad ferneamde Friezen, lytse en grutte bedriuwen en maatskiplike organisaasjes. In wichtich punt dêrby is dat wy minsken oantrune om it Frysk te brûken en dat it net slim is om flaters te meitsjen. It is leechdrompelich en in oantrún om nei de twitterdei ek faker Frysk te brûken op de sosjale media. Gewoan.. om't it kin.

"Miljoenen minsken sjogge op dy dei in Fryske tweet foarbykommen! En de #Frysk is op dy dei ien fan de meast besprutsen ûnderwerpen op twitter. Dêrneist krijt it yn de media ek in soad omtinken. Sûnt 2014 is der neffens it foarbyld fan de Fryske Twitterdei ek in Skotske Gaelic Twitterdei. Ek dy is tige súksesfol en no dus foar it earst in brede ynternasjonale twitterdei foar lytse talen. Ek dat is wichtich foar ús. Ek al begripe wy ús talen net allegear, wy hawwe úteinlik allegear ien ding mien: de leafde foar ús taal.

"Lytse talen meitsje de wrâld grutter."

Mae cyfle i chi ymuno yn y dathlu drwy ddefnyddio'r hashnodau #TIML2016 a #Cymraeg