'Gallai'r Llywodraeth brynu cyfran ym musnes dur Tata'

Carwyn Jones Image copyright ITV
Image caption Dywedodd Carwyn Jones fod gweinidogion yn gwneud popeth o fewn eu gallu i helpu'r diwydiant dur.

Mae Llywodraeth Cymru'n barod i brynu cyfran yng ngweithfeydd dur Tata yn y DU er mwyn achub safle Port Talbot, os yw hynny'n "fforddiadwy", meddai Carwyn Jones.

Yn ystod dadl etholiad y cynulliad ITV Cymru, rhoddodd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, bwysau ar y Prif Weinidog ar mater.

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew RT Davies, y dylid ystyried pob opsiwn.

Mynnodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Kirsty Williams na ddylai'r safle golli ei holl asedau yn ystod y broses o werthu.

Yn gynharach ddydd Mercher, daeth cadarnhad fod pennaeth Gwaith dur Tata ym Mhort Talbot yn mynd i gyflwyno cynllun lle byddai rheolwyr y cwmni yn prynu'r safleoedd ym Mhrydain.

Image copyright ITV
Image caption Dywedodd Leanne Wood bod yn rhai i'r Llywodraeth wneud mwy i achub y diwydiant dur.

Dywedodd Ms Wood y dylai'r Llywodraeth "fod yn barod i brynu cyfran, os yw hynny'n rhywbeth a fydd o gymorth i'r broses o brynu lwyddo".

"Dyma ddiwydiant na allwn ni fforddio ei golli, ac os oedd hi'n bosib i ni achub y banciau, dylen ni fod yn gallu achub y diwydiant dur," ychwanegodd.

Wrth ateb y cwestiwn a oedden nhw'n barod i brynu cyfran ym musnes dur Tata yn y DU, atebodd Mr Jones: "Ydyn, achos rydyn ni wedi ei wneud mewn diwydiannau eraill hefyd.

"Cyhŷd a'i fod yn fforddiadwy, dyna'r peth pwysig."

Image copyright ITV
Image caption Rhaid peidio â ffafrio un opsiwn ar draul un arall, meddai Andrew RT Davies.

Dywedodd Mr Davies ei fod yn bwysig nad oedd un opsiwn ar gyfer y busnes yn cael ei ffafrio ar draul un arall.

"Rhaid i ni gadw meddwl agored, a pheidio â diystyru unrhyw beth," dywedodd.

Dywedodd Mr Davies bod angen i lywodraethau'r DU a Chymru gydweithio er mwyn "creu'r cyfle i ddechrau'r broses o werthu".

"Mae ffafrio un cynnig ar draul un arall yn ystod y cyfnod cynnar hwn yn beth peryglus iawn i'w wneud," meddai.


Dadansoddiad y gohebydd gwleidyddol Tomos Livingstone

Ni wnaeth yr un arweinydd gymryd cam gwag heno, a go brin fod yr un wedi niweidio un neu fwy o'i wrthwynebwyr chwaith. Ond yn ei ffordd ei hun fe wnaeth y drafodaeth chwe-ffordd yma daflu ryw fath o oleuni ar yr etholiad.

Mae'r argyfwng yn y diwydiant dur wedi taflu cysgod dros yr ymgyrch hyd yn hyn, a doedd hi fawr o ryfedd fod chwarter y rhaglen wedi'i neulltio i'w drafod - a diddorol nodi fod Carwyn Jones yn barod i Lywodraeth Cymru brynu cyfran o'r gwaith ym Mhort Talbot.

Ond mwy cyfarwydd oedd gweddill y drafodaeth - ymgais gan y pleidiau eraill i feirniadu record Mr Jones ar wasanaethau cyhoeddus; efallai bydd y Prif Weinidog yn teimlo i'r cwestiynau addysg wedi bod yn fwy anghyfforddus efallai na'r rhai ar y gwasanaeth iechyd.

A gall arweinydd cymharol newydd y blaid werdd, Alice Hooker-Stroud, deimlo'n ddigon bodlon a'i hymddangosiad gyntaf yn y fath yma o fformat.

Mae 'na ddadl taw annog eu pleidleiswyr craidd i drafferthu i bleidleisio yw nod pob plaid bellach gyda chwta bythefnos i fynd - a bu digon o dystiolaeth ar y sgrin heno taw dyna oedd bwriad pawb.


Image copyright ITV
Image caption Rhybuddio rhag gwerthu holl asedau'r gwaith dur ym Mhort Talbot wnaeth Kirsty Williams.

Ond dywedodd Ms Williams ei bod eisiau i safle Port Talbot gael ei werthu "fel ag y mae, gyda'r ffwrneisi, a dydyn ni ddim eisiau i rywun ddod a gwerthu'r holl asedau, a dim ond cadw'r rhannau da ar gyfer y busnes".

"Oherwydd, os collwn ni'r ffwrneisi, byddwn ni mewn trafferth mawr."

Cyhuddodd arweinydd UKIP yng Nghymru, Nathan Gill, wleidyddion o fod yn annidwyll yn eu pryder am y diwydiant dur.

"Ers i Carwyn Jones ddod yn Brif Weinidog, rydyn ni wedi colli wyth o'n prif safleoedd puro metel," meddai.

"Yn sydyn, mae yna etholiad Cynulliad, ac mae pawb yn rhoi'r argraff eu bod yn poeni ac yn gwisgo bathodynau achubwch ein dur."

Image copyright ITV
Image caption Dywedodd Nathan Gill fod gwleidyddion yn bod yn anghyson ar ddur.
Image copyright ITV
Image caption Y broblem o fewn y diwydiant dur, meddai Alice Hooker-Stroud, oedd fod yr holl bwyslais ar elw.

Dywedodd arweinydd y Blaid Werdd yn Nghymru, Alice Hooker-Stroud, fod gan y diwydiant dur "rôl fawr i'w chwarae mewn dyfodol cynaliadwy i Gymru".

Ond dywedodd "Dwi'n credu bod angen i ni edrych ar ailwladoli neu sefydlu cwmni cydweithredol wedi ei berchnogi gan y gweithwyr."

Addysg a iechyd

Yn ogystal â'r diwydiant dur, heriodd yr arweinwyr ei gilydd ar nifer o bynciau, gan gynnwys addysg a iechyd.

Dywedodd Mr Gill fod UKIP eisiau ailgyflwyno ysgolion gramadeg "fel y gallan nhw fod yn feysydd o ffocws a rhagoriaeth i bobl".

Heriodd Ms Williams e, drwy ddwyn pwysau arno i gytuno fod plant oedd wedi methu'r hen arholiadau '11 plus' yn teimlo iddyn nhw gael eu methu gan y system addysg.

Image copyright ITV

Record iechyd y llywodraeth aeth a sylw Mr Davies, gan gyhuddo Llafur o ddyblu amseroedd aros dros yr 17 mlynedd diwethaf.

Mynnodd Mr Jones eu bod wedi cynyddu'r gwariant ar iechyd, gan neulltio 46% o'r gyllideb ar y GIG erbyn hyn.

Dywedodd Ms Wood fod yn rhaid sicrhau fod y GIG yn lle deniadol i weithio ynddo, ond bod y straen ar weithwyr yn ddifrifol ar hyn o bryd.

Cefnogi pobl i fod yn iachach yw'r ffordd ymlaen, meddai Ms Hooker-Stroud, ddwedodd bod angen cynllun llawer mwy cynhwysfawr i fynd i'r afael a salwch ac afiechydon.

Bydd y chwech arweinydd yn cwrdd eto ar gyfer ail ddadl ar BBC One Wales ddydd Mercher 27 Ebrill.