Etholiad y Cynulliad: Dadl fyw rhwng yr arweinwyr

Dadl Image copyright ITV

Mae arweinwyr y chwe phrif blaid yng Nghymru wedi mynd ben ben mewn dadl fyw am y tro cyntaf yn ymgyrch etholiad y Cynulliad nos Fercher.

ITV Cymru oedd yn cynnal y digwyddiad gyda'r blaid Lafur, y Ceidwadwyr Cymreig, Plaid Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol, UKIP a'r blaid Werdd yn cymryd rhan.

Golygydd gwleidyddol y sianel, Adrian Masters, oedd yn cadeirio'r ddadl.

Bydd y chwe arweinydd yn gwrthdaro unwaith eto mewn ail ddadl ar BBC One Wales ddydd Mercher nesaf.

Yr arweinwyr:

Carwyn Jones - Llafur Cymru

Andrew RT Davies - Ceidwadwyr Cymreig

Leanne Wood - Plaid Cymru

Kirsty Williams - Y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig

Nathan Gill - UKIP

Alice Hooker-Stroud - Y Blaid Werdd