Pum biliwnydd o Gymru ar restr gyfoethocaf y Times

Syr Michael Moritz Image copyright Getty Images
Image caption Fe wnaeth Syr Michael Moritz ei ffortiwn gyda chwmnïau fel Google, PayPal a Yahoo

Mae gan Gymru bum biliwnydd, gyda Syr Michael Moritz o Gaerdydd y cyfoethocaf, yn ôl rhestr gyfoethocaf y Sunday Times.

Syr Michael, wnaeth ei ffortiwn gan fuddsoddi mewn cwmnïau fel Google, PayPal a Yahoo, sydd ar gopa'r rhestr gyda gwerth o £1.95 biliwn.

Mae sylfaenydd Moneysupermarket.com, Simon Nixon, a chydberchennog clwb pêl-droed West Ham United, David Sullivan yn enwau newydd ar y rhestr eleni.

Mae cyd-sylfaenydd Specsavers, Douglas Perkins yn parhau yn yr ail safle, tra bo Syr Terry Matthews yn bedwerydd.

Mae'r rhestr yn cynnwys pobl gafodd eu geni, neu sydd nawr yn byw, yng Nghymru.

Gallai Steve Morgan, sylfaenydd cwmni adeiladu tai Redrow yn Sir y Fflint, fod y chweched biliwnydd ar y rhestr erbyn y flwyddyn nesaf os yw ei ffortiwn yn cynyddu ar y gyfradd bresennol.

Y Cymry ar restr gyfoethocaf y Sunday Times

1. Syr Michael Moritz - £1.95bn

2. Douglas Perkins a'i deulu - £1.55bn

3. Simon Nixon - £1.026bn

4. Syr Terry Matthews - £1.012bn

5. David Sullivan - £1bn

6. Steve Morgan - £800m

7. Henry Engelhardt a'i deulu - £700m

8. Yr Arglwydd Heseltine a'i deulu - £300m

9. Lawrence Jones a'i deulu - £275m

10. John Deer - £262m