Marwolaeth mam 25 oed: Pledio'n ddieuog

Georgia Symonds Image copyright Wales News Service

Mae dyn 53 oed wedi pledio'n ddieuog i gyhuddiad o lofruddio.

Mae Peter David Morgan, o Lanelen ger y Fenni, wedi'i gyhuddo o lofruddio Georgina Symonds, 25 oed.

Daeth yr heddlu o hyd i'w chorff ym Mrynbuga, Sir Fynwy ym mis Ionawr.

Plediodd yn ddieuog yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Gwener, ac mae disgwyl i'r achos llys ddechau ar 27 Mehefin.

Cafodd ei gadw yn y ddalfa.