Marwolaeth Maesteg: Gweithgor Iechyd i ymchwilio

ashley Image copyright facebook
Image caption Bu farw Ashley Daniel Talbot ym mis Rhagfyr 2014

Mae Heddlu De Cymru wedi cyhoeddi mai'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch (HSE) fydd yn ymchwilio i farwolaeth bachgen ysgol gafodd ei daro gan fws mini.

Yr athro addysg gorfforol, Chris Brooks, 34, oedd yn gyrru'r cerbyd pan fu farw Ashley Daniel Talbot, 15, ar ôl y ddamwain yn Ysgol Maesteg, Pen-y-bont ar Ogwr, fis Rhagfyr 2014.

Fe gadarnhaodd yr heddlu fis Ionawr na fyddai Mr Brooks yn wynebu unrhyw gyhuddiadau troseddol.

Cafodd bachgen, 13 oed, fan anafiadau wedi'r digwyddiad.