1,500 yn cystadlu yn ras feicio Taith Sir Benfro

Cyclists on Pembrokeshire coast Image copyright Joshua Fiddy

Bydd 1,500 o gystadleuwyr yn cymryd rhan yn ras feicio Taith Sir Benfro ddydd Sadwrn.

Dyma'r wythfed tro i'r ras gael ei chynnal, ac mae'r trefnwyr wedi gosod taith newydd i'r beicwyr eleni.

Bydd y cystadleuwyr yn dewis o daith 50, 75 neu 100 milltir - gyda'r hiraf yn cynnwys bron I 10,000 troedfedd o ddringo.

Mae'r daith yn dechrau a gorffen yn Nhyddewi.

Dywedodd un o'r trefnwyr, Joshua Fiddy y bydd yn "flwyddyn gyffrous i'r ras".