Llywodraeth y DU yn rhoi'r gorau i gyllido'r Gernyweg

Baner Cernyw

Mae Llywodraeth Prydain wedi cythruddo Cyngor Cernyw a phenaethiaid twristaidd y sir drwy roi'r gorau i gyllido'r iaith Gernyweg.

Dywedodd Cyngor Cernyw eu bod wedi derbyn £150,000 y flwyddyn ers i'r Gernyweg gael ei chydnabod yn iaith leiafrifol yn 2003.

Dywedodd yr awdurdod iddyn nhw gael cadarnhad o'r toriad mewn llythyr.

Mae'r Llywodraeth yn yn dweud eu bod yn gefnogol i Gernyw, fel y dangosodd "cytundeb datganoli hanesyddol" y sir.

Mae deiseb wedi ei dechrau i alw am barhau â'r nawdd.

Dywedodd Julian German, aelod cabinet y cyngor ar ddiwylliant: "Mae'r Prif Weinidog yn gwneud pwynt o ddweud cymaint y mae'n caru Cernyw a bod y cytundeb datganoli'n pwysleisio'r ffaith fod y llywodraeth yn cydnabod ein diwylliant a'n treftadaeth unigryw.

"Serch hynny, pan ddaw i gefnogi'r datganiadau hynny, dyw'r Llywodraeth ddim yn gwireddi'r addewidion i Gernyw."

Dyw'r cyngor ddim eto wedi cadarnhau a fydd swyddi'n cael eu colli o ganlyniad i'r toriad.

Dywedodd Malcolm Bell, pennaeth Visit Cornwall: "Mae'r iaith Gernyweg yn rhan hanfodol o frand Cernyw."

Dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol: "Mae'r Llywodraeth wedi ei hymrwymo i Gernyw, fel y dangosodd ein cytundeb datganoli hanesyddol - y cytundeb cyntaf o'i fath yn y wlad."

"Ar ben hyn, mae gan Gernyw £1.7bn i'w wario dros y pedair blynedd nesaf.

"Cynghorau lleol sydd i benderfynu ar eu blaenoriaethau a chyllido'r gwasanaethau lleol y mae pobl eu heisiau."

Yn 2014, derbyniodd pobl Cernyw statws lleiafrifol dan reolau Ewropeaidd i warchod lleiafrifoedd cenedlaethol.