Wrecsam 2-3 Braintree

Lee Fowler Image copyright Getty Images
Image caption Lee Fowler sgoriodd un o goliau Wrecsam.

Mae'r llygedyn o obaith oedd gan Wrecsam o gyrraedd gemau ailgyfle Cynghrair Genedlaethol Lloegr wedi diflannu ar ôl i'r Dreigiau golli o dair gôl i ddwy gartref yn erbyn Braintree.

Roedd y tîm cartref ar y blaen o ddwy gôl i un, gyda goliau gan Simon Heslop a Lee Fowler, ond sgoriodd Michael Cheek ei ail gôl i Braintree cyn yr egwyl.

Sgoriodd Mitch Brundle i'r ymwelwyr i sicrhau'r pwyntiau yn yr ail hanner.