Galw am ystyried gwneud pleidleisio'n orfodol

Pleidleisio

Mae angen ystyried gwneud pleidleisio'n orfodol er mwyn cynyddu'r canran sy'n pleidleisio yn etholiad y Cynulliad, meddai'r dirprwy weinidog diwylliant, twristiaeth a chwaraeon, Ken Skates.

Mae arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew RT Davies eisoes wedi rhybuddio y gallai'r canran fydd yn pleidleisio ar 5 Mai fod yn is nag erioed o'r blaen.

Dydd Sul, dywedodd Mr Skates o'r Blaid Lafur ei fod e'n bersonol o blaid ei gwneud hi'n orfodol i bobl bleidleisio.

Mae ei blaid wedi gwrthod y syniad yn y gorffennol, ac mae cais wedi ei wneud iddi ymateb i'r sylwadau.

Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig, UKIP a'r Democratiaid Rhyddfrydol eu bod yn erbyn pleidleisio gorfodol. Mae cais wedi ei wneud am ymateb gan Blaid Cymru.

Image caption Dywedodd Ken Skates bod angen i'r canran pleidleisio fod yn uchel er mwyn sicrhau mandad cryf.

Dywedodd Mr Skates wrth raglen BBC Radio Wales, Sunday Supplement, ei fod yn siomedig â chanran y rhai a bleidleisiodd yn ei etholaeth e, De Clwyd, adeg etholiad diwetha'r Cynulliad, sef 40%.

"Mae wastad yn bryder pan fo'r canran yn gostwng. Yn bersonol, dwi wastad wedi bod o blaid pleidleisio gorfodol.

"Dwi'n meddwl ei fod yn bwysig edrych ar y posibliadau i wella'r canran drwy ddefnyddio technoleg ddigiol, ond dwi'n meddwl y dylen ni edrych hefyd ar bleidleisio gorfodol."

Mae gan 11 o wledydd reolau sy'n gwneud pleidleisio'n orfodol - Awstralia yn eu plith, sy'n dirwyo pobl os nad ydyn nhw'n pleidleisio - ac mae gan 12 gwlad arall ddeddfwriaeth ar bleidleisio gorfodol sydd ddim yn cael ei gweithredu.

Dywedodd Mr Skates fod y refferendwm ar yr Undeb Ewropeaidd hefyd wedi "achosi dryswch", gan fod y bleidlais ar 23 Mehefin, mor agos i etholiad y Cynulliad.

'Dim cosbi pobl'

Yn etholiad 2003 y gwelwyd y canran isaf i fwrw pleidlais, sef 38.2%

Serch hynny, dywedodd Andrew RT Davies y byddai gorfodi pobl i bleidleisio'n caniatáu i wleidyddion "ymwrthod â'u cyfrifoldeb i geisio sicrhau fod y cyhoedd yn ymddiddori mwy mewn gwleidyddiaeth".

Ychwanegodd: "Mae angen i ni wneud gwleidyddiaeth yn fwy diddorol a chynrychioladol - nid dal gwn i bennau pobl a'u gorfodi nhw i bleidleisio."

Dywedodd llefarydd ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol: "Dydyn ni ddim yn cefnogi pleidleisio gorfodol am ein bod yn credu y dylai pobl gael yr hawl i beidio a phleidleisio.

"Serch hynny, byddai Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn cyflwyno system lle y byddai cyfle i bobl nodi opsiwn ar wahan i'r ymgeiswyr - fel opsiwn "dim un o'r uchod."

Wfftio'r syniad wnaeth UKIP hefyd. Dywedodd Douglas Carswell AS: "Ddylai'r Llywodraeth ddim cosbi pobl am beidio â phleidleisio."

"Yn lle hynny, dylen ni gael gwleidyddion sy'n ymwneud â'r cyhoedd, a pholisiau sydd gwerth pleidleisio drostyn nhw."