Caerlŷr 4-0 Abertawe

Caerlyr Leicester Image copyright PA

Colli'n drwm wnaeth yr Elyrch oddi cartre yn erbyn Caerlŷr ddydd Sul.

Aeth y tîm cartref ar y blaen ar ôl 10 munud gyda gôl gan Riyad Mahrez, cyn i Leonardo Ulloa rwydo'r ail 19 munud yn ddiweddarach.

Os oedd Abertawe'n gobeithio am gyfle i fwrw'n ôl yn yr ail hanner, ofer fuodd eu hymdrechion, wrth i Gaerlŷr reoli'r gêm yn llwyr.

Sgoriodd Ulloa ei ail ef a thrydedd Caerlŷr ar ol 60 munud, cyn i Marc Albrington ei gwneud hi'n bedair ym munudau ola'r gêm.

Mae'r canlyniad yn golygu fod Caerlŷr wyth pwynt yn glir ar frig tabl yr Uwch Gynghrair, tra bo Abertawe yn chweched o'r gwaelod.