Trychineb Chernobyl: Gwaharddiad cig yn 'bwysig'

Chernobyl

Mae llywydd Undeb Amaethwyr Cymru wedi dweud bod gwaharddiad ar werthu anifeiliaid o ffermydd Cymru yn sgil damwain niwclear Chernobyl 30 mlynedd yn ôl yn rhai pwysig, a hynny er lles y diwydiant cig oen.

"Ar y pryd be' oedd yn bwysig oedd sicrhau dyfodol cig oen Cymreig a s'dim amheuaeth yn fy meddwl bod hynny wedi ei ddiogelu," meddai Glyn Roberts.

"Dwi'n falch ein bod ni wedi mynd drwy hynny i gyd."

Bu'r gwaharddiadau mewn grym ar dros 300 o ffermydd Cymru am dros 25 o flynyddoedd oherwydd bod rhannau o'r ucheldir wedi eu llygru ag ymbelydredd o'r orsaf niwclear yn Wcrain.

Chernobyl

Ebrill 1986

Er mai ar 26 Ebrill, 1986 y digwyddodd y ffrwydrad yn atomfa Chernobyl, roedd hi'n rhai dyddiau wedyn cyn i law ymbelydrol ddisgyn ar dir Cymru.

"Dwi'n cofio pan ddaeth y datganiad roeddwn ym mart Rhuthun," meddai Mr Roberts, sy'n ffermio ym Mhadog ger Ysbyty Ifan.

"Fe ddaeth 'na waharddiad ar werthu bob dim fel cig oen a chig eidion ac roedd y cyfan yn dipyn o boendod, yn arbennig gan fod rhaid i rywun werthu er mwyn cael llif arian.

"Ond yng nghefn fy meddwl i hefyd - yn fwy na hynny - oedd rhywun yn meddwl pa effaith fydde hyn yn ei gael ar iechyd y bobl yng nghefn gwlad a be fydde'r effaith tymor hir os oedd y tir wedi'i lygru â Caesiwm.

"A fydde ni yn gallu tyfu glaswellt a magu anifeiliaid arno fo yn y dyfodol?"

Image caption Glyn Roberts

Cwestiynau

Ar y pryd roedd y cwestiynau'n pentyrru, a ffermwyr yn teimlo nad oedden nhw yn cael digon o wybodaeth.

"Roedden ni yn troedio tir hollol newydd," meddai Gwyn Williams, oedd yn ysgrifennydd Undeb Amaethwyr Cymru ac sy'n cyfaddef iddo golli sawl noson o gwsg yn poeni am y sefyllfa.

"Pan da chi yn cymharu gyda chlwy'r traed a'r genau - oedd wedi bod o'r blaen - roedd 'na derfyn wedi bod arno fo bob tro.

"Ond doedden ni ddim yn gwybod ar y pryd lle'r oedd hwn yn mynd i'n harwain ni - a'r gofid mwyaf oedd methu a rhoi atebion i ffermwyr un diwrnod ar ôl y llall."

Image caption Gwyn Williams

Yn y pen draw fe gyflwynwyd cynllun iawndal wrth i ffermwyr orfod monitro stoc am ymbelydredd cyn iddyn nhw fynd i'r gadwyn fwyd.

Fe gafodd y gwaharddiadau olaf eu codi yn 2012 ar ôl i'r Asiantaeth Safonau Bwyd gyhoeddi nad oedd na unrhyw risg bellach i iechyd y cyhoedd.

Oedd angen y rheolau?

Ond a oedd angen i'r gwaharddiadau barhau am bron i chwarter canrif?

Mae'r Athro Gerry Thomas, sy'n ymchwilio i effeithiau ymbelydredd ar iechyd yng Ngholeg Imperial Llundain, wedi cwestiynu'r rheolau.

"Doedden ni erioed wedi cael damwain niwclear fel hynny o'r blaen felly rwy'n meddwl ei bod yn synhwyrol i fod yn ofalus ar y pryd," meddai.

"Ond rwy'n meddwl nawr ein bod wedi dysgu nad yw Caesiwm wirioneddol yn rhywbeth sydd yn rhaid i ni boeni amdano."

Ond a oedd angen i'r gwaharddiau barhau am bron i chwarter canrif?

"Nid mater i'r diwydiant amaeth oedd hynny ond mater gwyddonol a gwleidyddol, oherwydd roedden ni'n gorfod derbyn y cyngor gwyddonol a derbyn y penderfyniadau roedd gwleidyddion yn eu pasio," meddai.