Pysgotwr yn disgrifio cael ei achub gan yr RNLI

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Roedd Mike Dooley wedi cael ei dynnu chwarter milltir o'r lan

Mae pysgotwr wedi disgrifio sut y cafodd ei achub gan yr RNLI ar ôl cael ei dynnu i'r môr gan don enfawr.

Mae Mike Dooley, 41 oed o Gaerffili, yn dweud ei fod yn fyw diolch i'r criw o wirfoddolwyr wnaeth ei achub oddi ar arfordir Porthcawl ym mis Rhagfyr.

Pan gafodd ei ddarganfod gan y bad achub roedd mewn cyflwr hypothermig ac wedi cael ei dynnu'n bell iawn o'r lan.

Mae'r pysgotwr diolchgar nawr yn annog pobl Cymru i gefnogi'r elusen.

Ton enfawr

Dywedodd Mr Dooley ei fod yn cofio sylweddoli bod y môr yn arw'r diwrnod hwnnw, ond ei fod yn teimlo'n ddiogel gan fod pysgotwyr eraill gerllaw.

20 munud yn ddiweddarach roedd wedi cael ei dynnu i'r môr gan don enfawr.

"Cyn i mi gael cyfle i ymateb, cefais fy nharo i'r llawr," meddai.

Image copyright Nigel Millard

Dywedodd ei fod yn cofio sioc y dŵr oer, a'i fod wedi ceisio nofio yn ôl tuag at y pier ond ei fod yn cael ei dynnu'n bellach i'r môr.

Ar ôl clywed am y digwyddiad gan aelodau'r cyhoeddi, fe wnaeth criw bad achub Porthcawl ddarganfod Mr Dooley chwarter milltir o'r lan.

"Pan glywes i am ymgyrch yr RNLI roeddwn i eisiau gneud popeth yn fy ngallu i godi ymwybyddiaeth am y gwaith anhygoel y mae'r gwirfoddolwyr yma'n ei wneud," meddai.