Mike Dooley
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Pysgotwr yn cael ei achub gan yr RNLI

26 Ebrill 2016 Diweddarwyd 06:58 BST

Mae pysgotwr wedi disgrifio sut y cafodd ei achub gan yr RNLI ar ôl cael ei dynnu i'r môr gan don enfawr.

Mae Mike Dooley, 41 oed o Gaerffili, yn dweud ei fod yn fyw diolch i'r criw o wirfoddolwyr wnaeth ei achub oddi ar arfordir Porthcawl ym mis Rhagfyr.

Pan gafodd ei ddarganfod gan y bad achub roedd mewn cyflwr hypothermig ac wedi cael ei dynnu'n bell iawn o'r lan.

Mae'r pysgotwr diolchgar nawr yn annog pobl Cymru i gefnogi ymgyrch codi arian yr elusen.

Does dim sŵn ar y fideo.